'Diolch Dai': Gwirfoddolwr gorsaf RNLI Aberystwyth yn ymddeol wedi 65 o flynyddoedd

Dai RNLI

Mae gwirfoddolwr sydd wedi cynnig ei wasanaeth i orsaf bad achub yr RNLI yn Aberystwyth ers 65 o flynyddoedd wedi ymddeol.

Dai Jenkins, 84 oed, yw'r aelod sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf yn hanes yr orsaf.

Mae Mr Jenkins wedi ymgymryd â nifer sylweddol o swyddi gwahanol yn yr orsaf yn ystod ei gyfnod yno. 

Dechreuodd ei daith gyda'r RNLI yn ddyn ifanc 18 oed fel aelod o'r criw ar y lan, ac yn ddiweddarach fe wasanaethodd fel ail gapten dros dro ar yr Aguila Wren. 

Ym 1963, Aberystwyth oedd yr orsaf gyntaf i gael bad achub ar gyfer dyfroedd arfordirol, a gwasanaethodd Dai fel llywiwr tan 1981. 

Ar ôl gadael y criw ym 1981, cymerodd Dai Jenkins rôl Swyddog Gweinyddol yr Orsaf, cyn dod yn Ysgrifennydd Anrhydeddus yr Orsaf rhwng 1985 a 2000. 

Gwasanaethodd Dai hefyd fel Trysorydd Anrhydeddus tan fis Rhagfyr 2021.

Image
Dai RNLI
Dai Jenkins gyda gweddill aelodau'r orsaf RNLI yn Aber (Llun: Billy Swanson/RNLI)

Ar ôl camu i lawr fel Trysorydd Anrhydeddus, cynorthwyodd Mr Jenkins yr Ysgrifennydd Blychau Casglu blaenorol cyn iddo ymddeol; yn fuan wedyn, cymerodd y rôl honno ei hun nes iddo ymddeol ym mis Hydref eleni.

Derbyniodd Dai Fathodyn Aur yr RNLI yn 2008, ynghyd â 'Bar' yn 2013. 

Yn ddiweddarach, dyfarnwyd MBE iddo yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2018, fel cydnabyddiaeth o'i ymroddiad eithriadol i'r elusen.

Derbyniodd ei fedal am 60 mlynedd o wasanaeth yn 2021.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod, dywedodd Dai Jenkins: "Rwy’n dod o deulu o bobl y môr, felly roedd hi’n anochel y byddwn i’n dod yn rhan o deulu’r RNLI. 

"Ond doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n ymgymryd â’r holl rolau rydw i wedi’u cyflawni yn yr orsaf!

"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cyfarfod â phobl enwog, wedi gwneud ffrindiau mewn llawer o orsafoedd badau achub gwahanol yng Nghymru, ac wedi meithrin perthnasoedd gwych yn fy nghymuned. 

"Rhai o’r pethau rwyf wedi’u mwynhau fwyaf dros y blynyddoedd yw cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi gyda’r RNLI ac arddangos ein gwaith, yn ogystal ag annog y genhedlaeth iau i ymuno â’r orsaf a chymryd rhan.

"Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda’r RNLI yn fawr iawn, ac er fy mod wedi rhoi’r gorau i’m holl gyfrifoldebau, byddaf yn bendant yn galw heibio i weld pawb yn yr orsaf."

Image
Dai RNLI
Y cwch bach math Dosbarth D yn cael defnydd gan griw'r orsaf (Llun: RNLI)

Dywedodd Alice Coleman, Rheolwr Cymunedol yr RNLI: ‘Mae’n anodd dod o hyd i eiriau i ddisgrifio’r cyfraniad y mae Dai wedi’i wneud i Orsaf Badau Achub Aberystwyth dros y 65 mlynedd diwethaf. 

"Trwy ei wasanaeth fel aelod o’r criw, ysgrifennydd anrhydeddus, ac yn fwy diweddar fel ysgrifennydd y blychau casglu, mae Dai wedi rhoi llawer iawn o amser, ymrwymiad ac arbenigedd i’r RNLI ac i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

"Mae ei gyflawniadau - gan gynnwys y Bathodyn Aur a’r Bar gan yr RNLI, ei MBE, a Medal Gwasanaeth 60 Mlynedd - yn adlewyrchu oes o wasanaeth eithriadol. 

"Yn bwysicach fyth, mae ei ymroddiad wedi helpu i lunio’r orsaf ac wedi ysbrydoli nifer di-rif o wirfoddolwyr dros y blynyddoedd.

"Diolch enfawr i Dai, ac rwy’n falch iawn y bydd yn parhau i alw heibio’r orsaf am baned o bryd i’w gilydd."

Prif Lun: Billy Swanson/RNLI

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.