Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn ‘siomedig’ â thoriad yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth

Lowri Williams

Mae Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth Newyddion S4C ei bod yn “siomedig” â’r cynnig i dorri £169,000 o gyllideb y Comisiynydd.

O dan gynlluniau cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, byddai cyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gostwng o £3.381m i £3.212m yn 2027-28, er bod rhagor o arian ar gyfer ymrwymiadau eraill y llywodraeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi mynegi pryder am y toriad, gan ddweud bod angen cynyddu’r gyllideb er mwyn cyflawni addewidion maniffesto Plaid Cymru.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Lowri Williams, wrth Newyddion S4C ei bod yn “derbyn y pwysau ariannol sydd ar Lywodraeth Cymru”.

Serch hynny, dywedodd ei bod yn “siomedig fod toriad o'r fath yn cael ei ystyried”.

“Rydym wedi nodi yn glir, ac yn realistig, yr adnoddau fyddai eu hangen arnom i wneud ein gwaith yn effeithiol,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cytuno â’n galwadau i ymestyn ein rôl ym maes safonau’r Gymraeg ond bydd yn anodd gwneud hynny yng ngoleuni’r gyllideb arfaethedig hon.

“Ein gobaith yw y bydd trafodaethau pellach cyn i’r gyllideb derfynol gael ei chadarnhau.”

Mae Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, yn cyflawni rôl y Dirprwy Gomisiynydd dros dro ar ôl i Efa Gruffudd Jones ymddiswyddo fel Comisiynydd y Gymraeg am resymau personol.

Galw am gyllideb o £6.7 miliwn

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen cyllideb o £6.7 miliwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i wneud ei waith yn effeithiol. 

Dywed y Gymdeithas mai dyna fyddai’r gyllideb heddiw pe bai wedi codi yn unol â chwyddiant ers sefydlu’r swyddfa.

Mae’r £3.212 miliwn sydd wedi’i gynnig ar gyfer 2027-28 yn llai na hanner y swm hwnnw.

Dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith fod cyllideb y Comisiynydd wedi wynebu toriadau dros y blynyddoedd.

“Pe bai’r swyddfa wedi cael cynnydd yn unol â chwyddiant, ers ei sefydlu yn 2011 gyda chyllideb o £4.2 miliwn ar y pryd, byddai bellach yn £6.7 miliwn y flwyddyn, o gymharu â'r £3.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol,” meddai.

“Mae’r Comisiynydd blaenorol eisoes wedi rhybuddio’n glir na all y sefydliad barhau i weithredu heb gynnydd yn y gyllideb.

“Ac mae yna addewidion hanfodol o ran yr iaith ym maniffesto Plaid Cymru, sef ymestyn Safonau’r Gymraeg i’r banciau, yr archfarchnadoedd ac i feysydd parcio preifat, addewidion y bydd yn llawer anoddach eu cyflawni os ydy cyllideb y Comisiynydd yn mynd i barhau i grebachu.

“Mae’r Llywodraeth yn pwysleisio bod ‘cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn flaenoriaethau allweddol’ iddi, felly mae’n rhaid i benderfyniadau cyllideb y Llywodraeth adlewyrchu’r blaenoriaethau allweddol yma.

“Byddai torri’r strwythur sy’n gwarantu’r hawliau yma yn anghyson â hynny.”

Mae’r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnig torri 5% oddi ar gyllidebau comisiynwyr eraill sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.