Cynlluniau i ailstrwythuro heddluoedd Cymru a Lloegr a chreu tua 200 o ranbarthau lleol
Mae Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynlluniau i ailstrwythuro'r heddlu yng Nghymru a Lloegr a chreu tua 200 o ranbarthau lleol, gyda phob un dan arweiniad uwch swyddog penodol.
Wrth annerch mewn cynhadledd ddydd Mercher, dywedodd Shabana Mahmood y byddai pob rhanbarth tua'r un maint ag ardal awdurdod lleol.
Byddai'r ardaloedd lleol yn rhan o wasanaethau heddlu rhanbarthol mwy, a fyddai'n gyfrifol am waith arbenigol.
Nid yw'r llywodraeth wedi cadarnhau faint o wasanaethau rhanbarthol fyddai'n cael eu sefydlu, na sut yn union y byddai'r newidiadau'n effeithio ar y pedwar llu yng Nghymru.
Mae rhai adroddiadau'n awgrymu y gallai nifer yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ostwng o 43 ar hyn o bryd i gyn lleied â naw, gyda dim ond un heddlu yn gwasanaethu Cymru gyfan.
Ar hyn o bryd, mae pedwar heddlu'n gwasanaethu Cymru, sef Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
Mae pob heddlu'n cael ei arwain gan brif gwnstabl, ac mae gan bob ardal gomisiynydd heddlu a throseddu etholedig sy'n gyfrifol am bennu blaenoriaethau plismona, goruchwylio cyllidebau a dwyn y prif gwnstabl i gyfrif.
Nid yw plismona wedi'i ddatganoli yng Nghymru, sy'n golygu mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am y maes, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli plismona, gan ddadlau y byddai hynny'n galluogi'r gwasanaeth i gydweithio'n agosach â gwasanaethau datganoledig fel iechyd, addysg a thai.
Gwasanaeth heddlu newydd
O dan y cynlluniau, byddai corff newydd yng Nghymru a Lloegr yn gyfrifol am nifer o feysydd plismona arbenigol.
Byddai'r rhain yn cynnwys gwrthderfysgaeth, rhai mathau o dwyll, troseddau difrifol a chyfundrefnol, gwasanaeth awyr yr heddlu a phlismona ffyrdd.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau i ddiwygio'r gwasanaeth heddlu'n sylweddol, gan gynnwys creu gwasanaeth heddlu newydd sydd wedi cael ei ddisgrifio fel fersiwn Brydeinig o'r FBI.
Dywedodd Ms Mahmood fod angen diwygio'r system o'r bôn i sicrhau safonau cyson o ran plismona ledled Cymru a Lloegr.
Cyfeiriodd at ddigwyddiad diweddar yng nghanolfan awyrlu RAF Fairford, a oedd wedi golygu bod angen pob swyddog heddlu oedd ar ddyletswydd yn Sir Gaerloyw.
Pwysau ariannol
Daw'r cyhoeddiad ddydd Mercher wrth i heddluoedd wynebu pwysau ariannol sylweddol.
Yn ôl gwybodaeth a gafodd ei gyflwyno i gynhadledd flynyddol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae bwlch o biliynau o bunnoedd yng nghyllid plismona.
Mae disgwyl i'r diffyg hwnnw gynyddu £2.5 biliwn erbyn 2030.
Wrth siarad â newyddiadurwyr ar ôl ei haraith, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref y byddai amserlen ar gyfer cyflwyno'r newidiadau'n cael ei chyhoeddi ar ôl i Fil Diwygio'r Heddlu gael ei gyflwyno gerbron Senedd y Deyrnas Unedig yn y gwanwyn.
Dywedodd na fyddai'r llywodraeth yn rhuthro i weithredu'r cynlluniau.
"Rydyn ni'n mynd i symud yn araf ac ar y cyflymder cywir, oherwydd dydw i ddim eisiau trosglwyddo cyfrifoldebau gweithredol, er enghraifft, i'r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol hyd nes fy mod i'n gwybod ei fod yn gwbl barod.
"Dydw i ddim eisiau gweld dirywiad yn y gwasanaeth.
"Diogelwch y cyhoedd sy'n dod gyntaf, a dydw i ddim eisiau gwneud hyn yn rhy gyflym fel bod cymunedau'n gweld dirywiad yn y gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn."