Manic Street Preachers i berfformio albwm cyntaf y band yn ei gyfanrwydd yng Nghaerdydd
Mae'r band roc Cymreig Manic Street Preachers wedi cyhoeddi y byddan nhw'n perfformio eu halbwm cyntaf, Generation Terrorists, yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf mewn cyngerdd arbennig yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Bydd y band o'r Coed Duon yng Nghwm Rhymni yn perfformio ar Gaeau Blackweir yn y brifddinas ar 19 Mehefin 2027, i ddathlu 35 mlynedd ers rhyddhau'r albwm.
Dyma fydd yr unig gyfle i weld y band yn perfformio'r albwm cyfan yn y Deyrnas Unedig, gyda'r cyngerdd hefyd yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y Manics o weddill eu gyrfa.
Bydd The Libertines, The Cardigans a The Tubs yn perfformio cyn y band, gyda'r digrifwr a'r cyflwynydd Elis James hefyd yn DJio yn ystod y digwyddiad.
'Anodd credu ei bod hi'n 35 mlynedd'
Cafodd Generation Terrorists ei ryddhau ym mis Chwefror 1992, ac roedd yn cynnwys 18 o ganeuon, gan gynnwys Motorcycle Emptiness, You Love Us, Little Baby Nothing a Slash 'n' Burn.
Roedd yr albwm yn gam pwysig yng ngyrfa'r band, gan eu helpu i ennill sylw cenedlaethol a sefydlu eu hunain fel un o fandiau roc mwyaf adnabyddus Prydain.
Mewn datganiad, dywedodd aelodau'r band eu bod wedi cael sioc wrth sylweddoli bod 35 mlynedd wedi mynd heibio ers rhyddhau'r albwm.
"Pan sylweddolon ni ei bod hi'n 35 mlynedd ers rhyddhau ein halbwm cyntaf, fe wnaeth hynny ein syfrdanu ni," medden nhw.
"Roedd yn anodd credu'r peth, ac roedd yn foment arwyddocaol.
"Wrth feddwl am yr albwm, fe sylweddolon ni nad oedd rhai o'r caneuon erioed wedi cael eu perfformio'n fyw, tra nad oedden ni wedi chwarae eraill ers degawdau."
Ychwanegodd y band eu bod wrthi'n ysgrifennu caneuon ar gyfer albwm newydd, gyda'r gobaith o'i ryddhau ddiwedd 2027 neu ddechrau 2028.
"Roedd y syniad o berfformio Generation Terrorists yn ei gyfanrwydd yn teimlo fel cyfle hwyliog i wneud rhywbeth gwahanol i'r gwaith recordio," medden nhw.
"Efallai bod y caneuon yn hen erbyn hyn, ond maen nhw i gyd mor ifanc ac egnïol, yn llawn angerdd, a hyd yn oed ychydig yn naïf.
"Bydd chwarae'r albwm yng Nghaerdydd, dinas lle rydyn ni wedi perfformio mewn cymaint o leoliadau, o Ganolfan Gelfyddydau Chapter i Stadiwm y Mileniwm, a chael ailbrofi'r teimladau hynny yn anhygoel."
Un o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru
Ffurfiwyd Manic Street Preachers yn y Coed Duon yn 1986, ac mae'r band wedi dod yn un o enwau mwyaf llwyddiannus cerddoriaeth roc Cymru.
Aelodau presennol y band yw'r prif leisydd a'r gitarydd James Dean Bradfield, y basydd Nicky Wire a'r drymiwr Sean Moore.
Dros y degawdau, mae'r Manics wedi rhyddhau cyfres o albymau llwyddiannus, gan gynnwys Everything Must Go yn 1996 a This Is My Truth Tell Me Yours yn 1998.
Ymhlith eu caneuon mwyaf adnabyddus mae A Design for Life, If You Tolerate This Your Children Will Be Next a Motorcycle Emptiness.
Mae'r band wedi ennill nifer o wobrau Brit ac wedi cyrraedd brig siartiau albymau a senglau'r Deyrnas Unedig.