Wayne Rooney wedi 'ystyried lladd ei hun' pan yn chwarae gydag United

WAYNE ROONEY

Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn trafod hunan laddiad. 

Mae'r cyn-bêl-droediwr Wayne Rooney wedi dweud iddo "ystyried lladd ei hun".

Wrth siarad ar bodlediad Gabby Logan, Life at the Midpoint, fe wnaeth o siarad am ei heriau oddi ar y cae pan oedd yn chwarae i Manchester United yn y 2000au.

Dywedodd y byddai'n "cau ei hun yn y tŷ am ddau ddiwrnod ac yn yfed".

"Dyma oedd cyfnod gorau fy ngyrfa o safbwynt chwarae, mae'n siŵr," meddai.

Ymunodd Rooney â United yn 2004 a sgoriodd 253 o goliau i'r clwb mewn 559 o gemau. Sgoriodd hefyd 53 o goliau dros Loegr.

Ar y podlediad, dywedodd ei fod yn "stryglo i ymdopi â phopeth". Fe wnaeth o siarad efo'i wraig, Coleen, a'i fam, a sylweddoli bod angen help arno.

Babi oedd ei fab hynaf, Kai, ar y pryd.

"O'n i ddim eisiau i Kai fy ngweld i fel 'na, felly dyna pam nes i guddio fy hun hefyd.

'Cuddio'r peth' 

"Nes i gyrraedd y pwynt lle o'n i'n ystyried lladd fy hun. O'n i jest ddim eisiau bod yma mwyach. O'n i ddim eisiau gweld pobl ar y stryd. O'n i ddim eisiau mynd i mewn i'r siopau.

"O'n i wastad yn gyfforddus ar y cae pêl-droed, ond yn stryglo gyda phopeth arall," meddai.

Mae'r cyn-bêl-droediwr, sydd bellach yn sylwebydd pêl-droed, yn ymddangos ar hyn o bryd yn y rhaglen deledu realiti I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!.

Fe helpodd Rooney United i ennill pum teitl Uwch Gynghrair Lloegr, Cynghrair y Pencampwyr, Cynghrair Europa, Cwpan FA a thri Chwpan EFL cyn iddo adael y clwb.

Ond doedd o ddim eisiau dangos ei deimladau ar y pryd.

"Dydych chi ddim eisiau dangos unrhyw wendid, felly rydych chi'n cuddio'r peth."

Ychwanegodd: "O'n i'n siarad â therapydd i drio deall beth oedd o'i le, achos wrth edrych yn ôl, o'n i ar binacl fy ngyrfa, newydd gael mab bach a newydd briodi.

"Fe ddylai fod wedi bod yr adeg hapusaf yn fy mywyd, ond doedd hi ddim."

Llun: Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.