'Neb yna i ateb cwestiynau': Teuluoedd yn dal i aros am gymorth wedi streic ymwelwyr iechyd
Mae mam o Bontypridd yn dweud ei bod yn dal i aros am apwyntiad i’w merch 10 mis oed, ar ôl i ymwelwyr iechyd yng Nghwm Taf Morgannwg ddychwelyd i’r gwaith wedi anghydfod o naw mis.
Fe wnaeth tua 100 o ymwelwyr iechyd ddychwelyd i’r gwaith ar 16 Tachwedd, ar ôl i undeb Unite a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddod i gytundeb mewn egwyddor dros gyflogau'r gweithwyr.
Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn cysylltu eto â theuluoedd ac yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd angen cymorth ar frys.
'Neb yna i ateb y cwestiynau'
Cafodd Charlotte Powell ei phlentyn cyntaf, Mila, fis cyn i’r streic ddechrau ym mis Chwefror.
Pan gafodd Mila golig a chlwy’r dwylo, traed a’r genau, dywedodd Charlotte fod ganddi gwestiynau am sut i ofalu am ei merch, “ond doedd neb yna i ateb y cwestiynau”.
Roedd ei brawd hŷn, a oedd â phlant ei hun, yn gallu ei helpu ar y pryd, meddai.
“Ond i bobl arall heb teulu, heb ffrindiau, sy’n mamau a thadau, beth sydd yna iddyn nhw?”
Dywedodd Charlotte nad oedd ganddi bwynt cyswllt penodol ar ôl geni Mila. Cafodd nodyn yn dweud y byddai rhywun o’r adran bediatrig yn ymweld bob wythnos, ond dim ond un ymweliad a gafodd.
“Ges i un person, unwaith, a dyna fe.”
Dywedodd Charlotte fod ymwelydd iechyd o Lyn Ebwy wedi dod i’w gweld pan oedd Mila’n chwe mis oed. Dyna’r tro diwethaf iddi weld ymwelydd iechyd, meddai, ac nid yw wedi clywed gan y bwrdd iechyd am apwyntiad pellach ers i’r streic ddod i ben.
Dywedodd hefyd ei bod bellach yn cael asesiad gan dîm iechyd meddwl ar ôl cysylltu â’r gwasanaeth ei hun.
“Roedd rhaid i fi ymestyn allan ar be fy hun, sydd yn rili rili anodd fel mam.”
'Ein gadael i wneud pethau ar ein pen ein hunain'
Roedd profiad Sammie Gulliver, mam i ddau o Bontypridd, yn wahanol iawn ar ôl geni ei hail blentyn.
Dywedodd ei bod wedi gweld ymwelwyr iechyd yn aml ar ôl geni ei merch gyntaf, sydd bellach yn dair oed. Ar ôl geni ei hail fabi, roedd y cyswllt yn fwy cyfyngedig.
“Teimlais fel fy mod wedi eu gweld ond unwaith ac yna cawsom ein gadael i wneud pethau ar ein pen ein hunain,” meddai.
“O’n i ddim yn siwr os oedd hynny oherwydd dyma oedd fy ail blentyn, neu os oedd prinder o ymwelwyr iechyd.”
Pan gafodd Sammie glwyf heintiedig ar ôl yr enedigaeth, dywedodd fod rhaid iddi gysylltu â’r gwasanaeth ei hun i gael rhywun i edrych ar y clwyf.
“Doedd gen i ddim gwir gymorth na chefnogaeth gyda hynny.”
Cytundeb ar raddau cyflog
Roedd yr anghydfod yn ymwneud â graddio swyddi'r ymwelwyr iechyd.
Roedd y gweithwyr yn dweud eu bod ar eu colled hyd at £9,000 y flwyddyn oherwydd y ffordd roedd eu swyddi wedi’u graddio.
Cyhoeddodd Unite ar 10 Tachwedd fod cytundeb mewn egwyddor wedi’i gyrraedd. O dan y cytundeb, bydd pob ymwelydd iechyd ar fand 6 yn y bwrdd iechyd yn cael cynnig swydd ymwelydd iechyd ar fand 7.
Disgrifiodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, y cytundeb fel “buddugoliaeth wych” i’r aelodau. Dywedodd fod yr anghydfod yn ymwneud â chydnabod “y gwaith medrus a hanfodol” y mae ymwelwyr iechyd yn ei wneud i deuluoedd a phlant.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Paul Seppman, mai dewis olaf oedd streicio ar ôl i drafodaethau fethu. Dywedodd fod yr aelodau’n ymwybodol o’r effaith y byddai’r anghydfod yn ei gael ar famau a’u plant.
“Ar ddechrau’r camau diwydiannol, cynigiodd Unite ddarparu lefel sylweddol o wasanaeth, ond gwrthodwyd hynny gan y bwrdd iechyd,” meddai.
Dywedodd Mr Seppman mai’r bwrdd iechyd oedd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a rhoi gwybod i deuluoedd sut i gael cymorth yn ystod y streic.
Ychwanegodd fod yr aelodau wedi ymrwymo i ailgychwyn eu dyletswyddau llawn.
Ailgysylltu â theuluoedd
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod y bwrdd yn gweithio i adfer y gwasanaeth ac ailgychwyn ei raglen lawn o gymorth i deuluoedd.
“Mae ein timau yn ailgysylltu â theuluoedd, gan flaenoriaethu’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf ac sydd angen y cymorth mwyaf brys,” meddai llefarydd.
Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn cydnabod bod yr amhariad wedi effeithio ar deuluoedd mewn gwahanol ffyrdd.
Ychwanegodd fod y pwynt cyswllt a sefydlwyd yn ystod y streic yn dal ar waith.
Gall teuluoedd sydd angen cymorth gan ymwelydd iechyd ffonio 01443 803930 neu anfon e-bost at CTM.SPOAHealthVisiting@wales.nhs.uk.