Alisha Joyce yn cymryd seibiant o rygbi i ailystyried ei dyfodol yn y gamp

Alisha Joyce

Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Alisha Joyce, wedi penderfynu cymryd seibiant o'i gyrfa er mwyn ailystyried ei dyfodol yn y gamp.

Mae'r blaenasgellwr 29 oed, sydd wedi ennill 54 o gapiau dros Gymru, wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru (URC) i gael camu o'i dyletswyddau rygbi am y tro ar ôl mwy na 12 mlynedd yn chwarae ar y lefel uchaf.

Daw'r penderfyniad flwyddyn ar ôl iddi roi genedigaeth i'w mab, Ralphie, ym mis Tachwedd 2025.

Mae hi hefyd yn bartner i Jasmine Joyce, asgellwr Cymru.

Roedd Alisha Joyce wedi dychwelyd i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, 158 diwrnod yn unig ar ôl rhoi genedigaeth.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn parchu penderfyniad Joyce ac wedi cynnig cefnogaeth iddi.

Image
Alisha a Jasmine Joyce gyda'u mab, Ralphie. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Alisha a Jasmine Joyce gyda'u mab, Ralphie (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

'Penderfyniad anodd'

Mewn datganiad, dywedodd Joyce fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd, ond ei bod yn teimlo mai dyma'r "amser iawn" gan fod ei "blaenoriaethau wedi newid."

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd, er fy mod wedi bod yn ei ystyried ers peth amser nawr.

"Rydw i wedi mwynhau bod yn chwaraewr proffesiynol yn fawr iawn, a fyddwn i ddim wedi colli’r profiad hwnnw am unrhywbeth," meddai.

"Pan ro’n i’n feichiog ro’n i’n benderfynol o chwarae rygbi unwaith eto ac rydw i mor falch fy mod wedi llwyddo i wneud hynny. Fe wnes i brofi i fy hun - ac i eraill gobeithio - bod hynny’n bosib.

"Mae chwarae dros Gymru wedi bod yn fraint, ac mae bod yn rhan o’r chwyldro sydd wedi digwydd yng nghamp y menywod dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pleser mawr i mi."

Diolchodd Joyce hefyd i'w chyd-chwaraewyr, yr hyfforddwyr a staff yr Undeb am eu cefnogaeth yn ystod ei beichiogrwydd ac ers iddi ddod yn fam.

Gwnaeth Joyce ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016, ac ers hynny mae wedi bod yn un o wynebau mwyaf adnabyddus rygbi menywod Cymru.

123 diwrnod yn unig ar ôl rhoi genedigaeth, roedd Alisha wedi dychwelyd i'r cae gyda thîm Brython Thunder yn rownd gyn-derfynol yr Her Geltaidd.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, roedd hi ar y fainc ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad, gan gamu i'r cae fel eilydd.

Roedd hanes Alisha a Jasmine yn ceisio dechrau teulu drwy driniaeth IVF hefyd wedi cael sylw yn y gyfres ddogfen Still a Force, a enillodd wobr Partneriaeth Brand Gorau ym Maes Chwaraeon y Menywod yng Ngwobrau ISC 2026.

'Drws yn dal ar agor'

Dywedodd prif hyfforddwr tîm menywod Cymru, Sean Lynn, y byddai Alisha Joyce yn cael ei cholli'n fawr gan ei chyd-chwaraewyr a'r staff.

"Mae Alisha wedi bod yn un o wynebau mwyaf adnabyddus rygbi menywod a bydd ei chyd-chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff yn gweld ei heisiau’n fawr.

"Roedd y ffordd y daeth hi’n ôl i’r llwyfan rhyngwladol 158 diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth i Ralphie yn wirioneddol ysbrydoledig.

"Ry’n ni’n parchu penderfyniad ‘Butch’, ond gobeithio ei bod yn gwybod bod y drws yn dal ar agor iddi. Gobeithio wir y bydd hi’n parhau i fod yn rhan o’r gêm mewn rhyw ffordd gan fod ganddi gymaint i’w gynnig."

Ychwanegodd Nadine Griffiths, Cyfarwyddwr Rygbi Menywod yr Undeb, fod Joyce wedi bod yn ysbrydoliaeth i ferched.

"Mae hi’n un o’r chwaraewyr hynny y mae’n merched ifanc yn ei hystyried fel gwir arwres.

"Mae hi’n ysbrydoliaeth, yn un o gewri’n gêm, ac yn berson sydd wedi dangos yn glir i’r byd beth sy’n bosib ei gyflawni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.