Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed yn ei dacsi

Mohammed Uddin

Mae dyn o Wrecsam wedi cael ei garcharu am bron i ddwy flynedd ar ôl ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed droeon tra roedd hi'n teithio yn ei dacsi.

Plediodd Mohammed Uddin, 53 oed, o Stryd Peel yn y ddinas, yn euog i bedwar cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar y ferch yn ystod taith mewn tacsi un noson yn 2024.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun fod Uddin wedi dechrau cyffwrdd â'r ferch tra roedd hi'n eistedd yng nghefn y tacsi.

Ar un adeg, fe yrrodd i faes parcio heb oleuadau, diffodd goleuadau'r car ac agor y drws er mwyn parhau â'r ymosodiad.

Dywedodd yr erlynydd, Dafydd Roberts, fod yr ymosodiad wedi dod i ben ar ôl i ffrind oedd yn cadw golwg ar daith y ferch adref anfon ei lleoliad GPS at aelod o'i theulu.

Fe gyrhaeddodd y perthynas y lleoliad, a chlywodd y llys fod y ferch yn crio ac mewn cyflwr o ofid mawr.

Wrth ddedfrydu Uddin, dywedodd y Barnwr Nicola Jones fod angen anfon neges glir at yrwyr tacsi sy'n cam-drin ymddiriedaeth eu teithwyr.

"Mae angen atal pobl rydyn ni'n ymddiried ynddyn nhw i gasglu menywod a phlant a'u cludo'n ddiogel adref, rhag cyflawni troseddau fel hyn.

"Rydych chi wedi torri'r ymddiriedaeth honno yn llwyr," meddai.

Dywedodd bargyfreithiwr y diffynydd, Philip Tully, fod Uddin wedi bod yn byw ym Mhrydain ers cryn amser a bod ganddo ganiatâd i aros yn y wlad.

Ychwanegodd nad oedd Uddin bellach yn gweithio fel gyrrwr tacsi.

"Mae ochr hollol wahanol i Mr Uddin. Mae'n ddyn teulu, yn dad i bedwar o blant ac mewn gwaith llawn amser," meddai.

Roedd y ddioddefwraig yn bresennol yn y llys wrth i Uddin gael ei ddedfrydu.

Ac wrth siarad â hi yn uniongyrchol, fe wnaeth y Barnwr Jones ei hannog i barhau â'i bywyd a pheidio â gadael i'r ymosodiad ddiffinio ei dyfodol.

"Peidiwch â gadael i'r hyn mae dyn wedi'i wneud i chi ddiffinio gweddill eich bywyd," meddai'r barnwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.