'Hir yw pob aros': Max Boyce yn cyfansoddi cân newydd am fuddugoliaeth Cymru dros Seland Newydd

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Max Boyce

Mae'r canwr Max Boyce wedi dechrau cyfansoddi cân newydd i ddathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru dros Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Mae'r gân, sydd wedi'i hysbrydoli gan yr hen ddihareb Gymraeg 'Hir yw pob aros', yn dilyn buddugoliaeth Cymru o 35-28 dros y Crysau Duon yn Stadiwm Principality.

Hon oedd y tro cyntaf i Gymru guro Seland Newydd ers 1953, gan ddod â 73 mlynedd o aros am fuddugoliaeth i ben.

Dywedodd Max Boyce, sy'n adnabyddus am ei ganeuon rygbi fel Hymns and Arias, ei fod wedi cael ei ysbrydoli i ysgrifennu cân newydd ar ôl gwylio'r gêm.

"Wi 'di dechrau sgwennu pwt o gân ar yr hen ddihareb Gymraeg 'Hir yw pob aros'," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae hynny wedi dweud popeth, fi'n credu, a dyna beth oedd yn gwneud y gwahaniaeth. Colli, colli, colli ar hyd y blynyddoedd."

Er nad oedd Max yn gallu bod yn y stadiwm ddydd Sadwrn oherwydd cyngerdd, dywedodd ei fod eisoes wedi gwylio'r gêm ddwywaith ar y teledu.

"Y gair yw hanesyddol, fi'n credu. 'Sai 'di clywed cynulleidfa fel 'na o'r blaen. 

"Fi 'di clywed Hymns and Arias dros y blynyddoedd, ond dim fel y 10 munud ola'. Oedd e'n rhoi gwefr i fi ac i'r tîm.

"Tro hyn oedd e'n sbesial. Oedd amser yn mynd, ac oedd y dorf moyn helpu mewn rhyw ffordd, a wnaethon nhw wneud hynny drwy ganu Hymns and Arias.

Image
Cymru v Seland Newydd
Louis Rees-Zammit yn sgorio ddydd Sadwrn (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Roedd amddiffyn Cymru yn ystod munudau olaf y gêm yn arbennig o gofiadwy i Max, wrth i'r tîm wrthsefyll pwysau gan Seland Newydd i sicrhau'r fuddugoliaeth.

"Mae'n golygu cymaint oherwydd maen nhw'n meddwl y byd o rygbi yn Seland Newydd, a rheiny yw'r gorau dros gyfnod hir nawr.

"Mae'r ffaith ein bod ni erioed wedi ennill, wedi curo pawb arall ond byth y Crysau Duon.

"Ond oedd yr amddiffyn dros y 10 munud diwetha' yn rhyfeddol, a fydd neb byth anghofio'r gêm 'na."

Mae Max Boyce wedi bod yn rhan o ddiwylliant rygbi Cymru ers degawdau, gyda'i ganeuon Hymns and Arias yn gyfarwydd i genedlaethau o gefnogwyr.

Mae'r gân, a gafodd ei rhyddhau yn y 1970au, wedi dod yn un o ganeuon mwyaf adnabyddus cefnogwyr Cymru, ac mae'n cael ei chanu'n rheolaidd yn ystod gemau rhyngwladol.

Yn ôl Max, gallai buddugoliaeth dydd Sadwrn fod yn drobwynt i rygbi Cymru.

"Mae'r gêm 'na wedi anadlu rhyw freshness mewn i'r gêm yng Nghymru, ac mae rhywbeth sbesial nawr yn y gêm.

"Bydd y cefnogwyr yn mynd i'r gemau, ac mae 'na gyfle nawr i ni aildrefnu'r holl gêm yng Nghymru oherwydd un gêm yn erbyn Seland Newydd.

"I feddwl am yr holl chwaraewyr, world beaters, wnaeth byth ennill yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd, mae'r bois wedi creu hanes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.