Chwarter y bobl a fu farw yng Nghymru ‘wedi bod mewn tlodi tanwydd’
Roedd chwarter y bobl a fu farw yng Nghymru yn 2025 wedi byw mewn tlodi tanwydd yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau, yn ôl yr elusen gofal diwedd oes Marie Curie.
Mae adroddiad newydd Marie Curie Cymru, Marw mewn Tlodi yng Nghymru 2026, yn dangos bod 28 y cant o bobl o oedran gwaith a fu farw yn 2025 wedi bod mewn tlodi tanwydd yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau.
Roedd hynny’n gynnydd o 23 y cant yn 2024.
Roedd 31 y cant o bobl o oedran gwaith yng Nghymru mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau, o gymharu â 25 y cant o’r rhai nad oeddent ar ddiwedd eu hoes.
Roedd y gyfradd yng Nghymru yn uwch nag yng ngweddill y DU. Roedd 26 y cant o bobl o oedran gwaith yn Lloegr mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau, a 25 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Natasha Davies, Uwch Reolwr Polisi Marie Curie Cymru: “Ddylai pobl sy’n marw ddim gorfod treulio eu heiliadau olaf mewn cartref oer oherwydd biliau sy’n codi’n gyflym.
“Dydy tlodi ddim yn anochel. Dylai arweinwyr gwleidyddol wneud mwy i atal miloedd yn rhagor o bobl rhag marw mewn tlodi.”
Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â thlodi ar ddiwedd oes, “cyn i fwy o bobl gwympo drwy’r craciau”.
Mae’r elusen wedi rhybuddio am y sefyllfa cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ar 18 Tachwedd.
Mae’r ffigurau, o ymchwil gan y Ganolfan Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough, yn dangos bod cyfanswm o 8,800 o bobl wedi profi tlodi tanwydd yn ystod 12 mis olaf eu bywydau yn 2025.
Mae hynny’n cyfateb i 25 y cant o bob marwolaeth gofrestredig yng Nghymru y flwyddyn honno.
Ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, roedd o leiaf chwarter y bobl o oedran gwaith a fu farw wedi byw mewn tlodi tanwydd yn ystod 12 mis olaf eu bywydau.
Ymateb
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi teuluoedd gyda chostau byw yn flaenoriaeth allweddol i'r llywodraeth hon. Rydyn ni’n cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu llawer o bobl ledled Cymru, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u teuluoedd.
"Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £130 miliwn, gan gynnwys taliad ynni o £100 ar gyfer aelwydydd cymwys, gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a chartrefi wedi'u haddasu sy'n derbyn gostyngiad band oherwydd anabledd.
"Rydyn ni’n darparu cronfa o £8m i awdurdodau lleol ei defnyddio yn ôl eu disgresiwn i helpu rhai aelwydydd eraill. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth gyda chostau tanwydd i’r rhai sydd heb eu cysylltu â’r prif rwydwaith ac yn hybu ein hymgyrch Hawlia Dy Arian i helpu pobl i gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
"Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddileu’r cap budd-daliadau, cynyddu Lwfans Tai Lleol a chyflwyno tariffau cymdeithasol i helpu aelwydydd gyda chostau byw.
"Mae cyngor a chymorth ar gael am ddim i unrhyw un sy'n poeni am filiau ynni neu gostau’r cartref drwy gysylltu â llinellau cymorth Nyth a Hawlia Dy Arian Advicelink Cymru.”
