Llwyddiant i Gwennant Pyrs a Chôr y Doc yn yr Ŵyl Cerdd Dant

gwennant.jpg

Roedd llwyddiant i Gwennant Pyrs a Chôr y Doc yn yr Ŵyl Cerdd Dant yng Nghaernarfon nos Sadwrn wrth ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Côr Cerdd Dant Agored. 

Fe gafodd y côr o ardal Gwynedd a Môn ei ffurfio yn arbennig ar gyfer yr ŵyl eleni, gyda Gwennant yn gosod ac yn hyfforddi.

Mae Gwennant yn un o enwau mwyaf cyfarwydd y byd cerdd dant, gan osod gosodiadau di-ri ar hyd y blynyddoedd yn ogystal â chyfansoddi ceinciau cerdd dant nodedig. 

Fe gafodd lwyddiant yn ystod y dydd hefyd yn y cystadlaethau partïon uwchradd, cerdd dant ac alaw werin yn gynharach yn y dydd. 

Tlws Coffa Leah Owen

Côr yr Heli  o ardal Llŷn ac Eifionydd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Côr Alaw Werin Agored, gyda thlysau arbennig yn cael eu rhoi er cof am Leah Owen i'r côr a'i arweinydd, Gwenan Gibbard. 

Fe wnaeth Caernarfon goesawu'r ŵyl i'r dref y penwythnos hwn, a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Yn ôl y trefnwyr, roedd yna fwy nag erioed o gystadleuwyr eleni.

Fe gafodd yr ŵyl ei chynnal yng nghanolfan Galeri, gydag ystod eang o gystadlaethau a pherfformiadau yn cael eu cynnal gan gynnwys Cerdd Dant, Canu Gwerin, Llefaru, Dawnsio Gwerin, cystadlaethau'r delyn a barddoniaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.