Ameer Davies-Rana: Pobl yn ‘fwy hyderus nag erioed’ i ddweud pethau hiliol
Mae’r cyflwynydd Ameer Davies-Rana wedi dweud bod pobl yn “fwy hyderus nag erioed” yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf i ddweud pethau hiliol i’w wyneb.
Mae Ameer, sy’n gyfarwydd i wylwyr Hansh, o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin.
Wrth sgwrsio gyda Seren Jones yn y bennod ddiweddaraf o’r gyfres Cyrraedd Cymru ar S4C, mae’n dweud ei fod wedi profi sylwadau hiliol “flat out” yn yr ysgol uwchradd.
Dywedodd Ameer ei fod wedi derbyn “miloedd” o sylwadau hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl postio llun ohono yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 gyda Sage Todz a Lloyd Lewis, gyda’r pennawd “Dyfodol y Gymraeg”.
“Mae pobl yn rili hyderus nawr, mwy nag erioed, i ddweud pethau hiliol i wyneb ti, a ma’ nhw yn,” meddai Ameer.
Mae’r gyfres Cyrraedd Cymru yn archwilio hanes mewnfudo i Gymru a sut mae mewnfudo wedi siapio’r Gymru gyfoes.
Mae Ameer yn Fwslim, gyda’i fam o Gymru a’i dad o Bacistan.
“Dim ond dros y pump, chwe blynedd diwetha’ fi wedi cymryd rhan yn Ramadan yn iawn ac yn strict,” meddai.
Cyn hwnna, not so much, falle achos o’n i ddim yn prowd.
“Does dim ots faint o bocsys fi yn tico, a fi ‘di tico nhw gyd, i fod yn Gymro.
“Fi yn siarad Cymraeg yn rhugl, dwi yn hyrwyddo’r Gymraeg yn galed, dwi’n gweithio yn cyfryngau Cymraeg yn gyson, dwi yn Gymro i’r carn, ond weithiau dyw e jyst ddim yn ddigon.
“Fi’n cofio sawl tro fi ‘di bod mewn ‘stafelloedd lle fi’n gorfod dangos pa mor Gymraeg ‘yf fi’n gyflym so bod pobol yn gwybod ‘O ie, he’s one of us’.”
Mae Cyrraedd Cymru ar gael i’w gwylio ar S4C am 20.00 nos Sul a’r gyfres hyd yma ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.
