Dynes 'ar ei gliniau'n pledio' ar Gyngor Gwynedd am ofal lleol i’w mab awtistig

Y Byd ar Bedwar

Dynes 'ar ei gliniau'n pledio' ar Gyngor Gwynedd am ofal lleol i’w mab awtistig

Mae Mam o Wynedd yn dweud ei bod “ar ei phengliniau yn pledio” gyda'i chyngor lleol am ofal i’w mab awtistig adref.

Yn ôl Euriona Croft o Fethel ger Caernarfon, mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig dau leoliad preswyl yn Lloegr i’w mab 10 oed, Ashton.

“Person ydy Ashton, ac ma geno fo hawlia ru’n peth a pawb arall,” meddai wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar.

“Ddylia fo fod yn gallu ca’l y gofal yn y sir ma’n byw, efo’i deulu, ac yn yr iaith mae o’n ddallt - Cymraeg ydy Ashton.”

Mae Ashton yn byw gydag awtistiaeth ac anghenion dysgu dwys, ac yn derbyn cefnogaeth gan dîm Derwen i blant anabl yng Nghyngor Gwynedd.

Ar hyn o bryd mae nhw’n talu am 10 awr o ofal yr wythnos i Ashton, a dwy noson o seibiant bob chwe wythnos. 

“Da ni angen mwy o gymorth. Dwi mewn burnout ac ar ein pengliniau ishio mwy o help,” ychwanegodd.

Image
Aashton
Mae Aashton yn 10 oed 

Mae ffigyrau egsliwsif gan Y Byd ar Bedwar wedi canfod bod Derwen yn gwario £1.13 miliwn ar leoliadau i blant ag anghenion ychwanegol - fel cartrefi neu ysgolion arbenigol, ond bod 57.5% o’r arian yma yn mynd ar leoliadau tu hwnt i Wynedd. 

Mae 15% yn mynd ar leoliadau tu allan i Gymru.

“Dwi'n meddwl bod y cyngor angen rhoi investment i fewn i agor residentials yng Nghymru,” meddai Euriona Croft. 

“Yndan, ma nhw’n gostus, ond ma’ nhw efo digon o bres i yrru'r plant i Lloegr.

“Fel mam, sa neb isio i plentyn fynd i residential, dwi’n gwbod ella bydd hynna yn gorfod digwydd, ond mae rhaid iddo fo ddigwydd yng Nghymru.

“Tra fyddai yma mi wnai gwffio dros fy mhlentyn.”

‘Cydnabod prinder’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mewn ymateb:  “Rydym yn cydnabod bod prinder dewis o leoliadau addas o fewn Gwynedd ar hyn o bryd, ac hyd yn oed o fewn Cymru, ac y gall hynny ein harwain i ddefnyddio lleoliadau all-sirol. 

"Mae hyn yn cynnwys siroedd cyfagos sy’n ddiwylliannol addas ar gyfer plant Derwen. Rydym hefyd yn falch o'r gwasanaethau unigryw a safonol sydd gennym yng Ngwynedd, megis Hafan y Sêr, na sydd ar gael ymhob sir o reidrwydd. 

“Anghenion y plentyn sydd yn gyrru gwaith Derwen ac nid cost."

Ychwanegodd y cyngor: “Tra na allwn drafod achosion unigol, rydym yn gwerthfawrogi’r heriau sy’n wynebu rhieni a gofalwyr wrth iddynt geisio’r gorau i’w plant."

Dywedodd y cyngor eu bod yn "rhoi’r sicrwydd ein bod yn dilyn trefniadau a phrotocolau cenedlaethol wrth ymateb i anghenion ychwanegol plant", ac yn trafod pob achos yn fanwl gyda rhieni neu warcheidwaid.  

“Os ydy rhiant/gwarchodwr yn bryderus am y gwasanaeth maent yn ei dderbyn, neu os oes ganddynt gwestiwn, mae trefnu ffurfiol mewn lle i godi hyn. Yn ychwanegol cynhaliwyd sesiynau gwrando ar lais rhieni yn ddiweddar iawn ac mae bwriad cynnal rhagor 

Ymysg y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno i wella profiad defnyddwyr a staff, dywed Cyngor Gwynedd fod:

  • Cynnydd "sylweddol iawn" yng nghyllideb Derwen dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny "mewn ymateb i’r cynnydd sylweddol yn y galw a chymhlethdod achosion" 

  • Cynnal sesiynau gwrando gyda theuluoedd "er mwyn datblygu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu". 

    Dywed y cyngor hefyd fod y sesiynau hyn "wedi bod yn llwyddiannus ac mae rhagor i ddod."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae plant ag anghenion ychwanegol yn haeddu derbyn gofal mor agos at eu cartrefi a’u teuluoedd a phosib, a’u bod yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi teuluoedd a symud gofal yn nes at adref. 

Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Gofal Dros y Ffin ar S4C, BBC iPlayer ac ar Youtube ddydd Llun 16 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.