Microsoft yn wynebu trafferthion technolegol yn fyd-eang
Mae Microsoft yn ceisio datrys trafferthion technolegol fyd-eang, gyda gwasanaethau gan gynnwys Teams, Outlook a’r meddalwedd AI Copilot wedi eu heffeithio gan “broblemau cysylltu”.
Dywedodd y cwmni o’r Unol Daleithiau nad digwyddiad seiberddiogelwch sydd wedi achosi’r broblem.
Mae defnyddwyr mewn 74 o wledydd wedi’u heffeithio, ac mae’r broblem wedi para am fwy nag 11 awr.
Dywedodd Microsoft nad yw ei ymdrechion i ddatrys y broblem wedi “gweithio yn ôl y disgwyl”.
Mae mwy na 430 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau Microsoft 365, ac mae’r cewri technoleg OpenAI ac Anthropic wedi adrodd am broblemau o ganlyniad.
Am 5.00 fore ddydd Gwener dywedodd Microsoft ei fod yn dal i weithio ar ffyrdd o ddatrys y broblem.
Dywedodd y cwmni ei fod yn “gweithio ar sawl trywydd i leihau’r effaith” ac i sicrhau bod gwasanaethau’n “gweithio’n iawn” eto.
Dywedodd fod yn gweld gwasanaethau’n “gwella’n rhannol” mewn rhanbarthau lle mae wedi ceisio datrys y problemau. Ond nid oedd y camau hyn yn “arwain at welliant parhaus”.
