Carcharu John Gizzi am droseddau trais domestig yn erbyn ei gyn-bartner

Gizzi

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys manylion am drais domestig ac fe allai’r cynnwys beri gofid

Mae dyn 55 oed o Sir Ddinbych wedi derbyn dedfryd o dros bedair blynedd o garchar am gyfres o ymosodiadau treisgar ar ei gyn-bartner.

Mewn gwrandawiad fis Hydref, fe blediodd John Gizzi yn euog i dair trosedd, sef ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth, tagu bwriadol a methu â darparu cyfrinair ei ffôn i swyddogion yr heddlu.

Mae Gizzi yn enw cyfarwydd ar hyd glannau gogledd ddwyrain Cymru. Cafodd ei garcharu'n flaenorol am droseddau yn ymwneud a chyffuriau, ac am ymosod.

Wrth ei ddedfrydu i bedair blynedd ac 11 mis o garchar ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Simon Mills mai hwn oedd yr achos gwaethaf o gam-drin domestig yr oedd wedi ei weld erioed.

Clywodd Llys y Goron y Wyddgrug bod cyn-bartner Gizzi, Natasha Farah, o Landrillo-yn-rhos, wedi ei chanfod yn anymwybodol yn ei chartref fis Ebrill eleni. 

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ac mae Ms Farah yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w hymennydd saith mis yn ddiweddarach.

Nid oedd tystiolaeth fod Gizzi yn gyfrifol am yr anafiadau, ond yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad.

Datgelodd yr ymchwiliad gyfnodau hir o gamdriniaeth gan Gizzi tuag at Natasha Farah.

Roedd y gamdriniaeth hon yn llafar a chorfforol.

Roedd Gizzi hefyd wedi bygwth Natasha ac wedi achosi difrod troseddol i'w heiddo.

Roedd ei ymddygiad tuag at Natasha hefyd yn ymestyn i reoli'r dillad yr oedd hi'n eu gwisgo.

Cyfaddefodd Gizzi iddo dagu chwaer Natasha, Samantha, mewn digwyddiad arall a ddigwyddodd yn gynharach eleni.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Donaghy o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r pleau o euogrwydd a gofnodwyd gan John Gizzi yn yr achos hwn yn adlewyrchu natur ddifrifol ei droseddau, a’r ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth parhaus y bu’n ei arfer tuag at ei ddioddefwr dros gyfnod estynedig.

“Cafodd y patrwm hwn o ymddygiad effaith ddofn a pharhaol ar ei rhyddid, ei hannibyniaeth, ei hyder, a’i hymdeimlad o ddiogelwch.

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith y mae’r achos hwn wedi’i gael hefyd ar deulu agos y dioddefwr, ac rwy’n cydnabod eu dewrder a’u hamynedd, mewn cyfnod sydd wedi bod yn hynod anodd ac emosiynol iddynt.

“Cyfaddefodd Gizzi hefyd iddo dagu menyw arall yn fwriadol - gweithred o drais sy’n hynod ddifrifol.

“Hoffwn gydnabod y dewrder sydd ei angen ar ddioddefwyr cam-drin domestig i ddod ymlaen ac i gydweithio ag ymchwiliad troseddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.