Manchester United yn diswyddo Michael Carrick fel prif hyfforddwr

Michael Carrick

Mae Michael Carrick wedi gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Manchester United yn dilyn dechrau trychinebus i dymor y clwb.

Mae'r clwb dan arweiniad Carrick bellach yn y 18fed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr - y dechrau gwaethaf i dymor United mewn 40 o flynyddoedd.

Mae yna ddyfalu mai Mauricio Pochettino yw'r ffefryn i olynu Carrick yn Old Trafford, gydag enwau Eddie Howe a Julian Nagelsmann hefyd ar restr posib o enwau sydd yn cael eu hystyried.

Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd y clwb fod Carrick wedi gadael ei swydd:

"Dychwelodd Michael i'r clwb ym mis Ionawr ac arweiniodd y tîm i orffen yn drydydd yn yr Uwch Gynghrair, trwy ennill 12 o'r 17 gêm oedd ar ôl yn nhymor 2025/26 - gan sicrhau'r nifer uchaf o bwyntiau yn y gynghrair yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Yn dilyn dechrau siomedig i'r tymor, mae'r clwb wedi dod i'r casgliad anodd iawn bod angen newid er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau.

"Mae Michael yn, ac fe fydd bob amser yn, gymeriad chwedlonol yn Manchester United. Yn union fel y gwnaeth fel chwaraewr, mae wedi ymddwyn yn unol â'r safonau uchaf o ymroddiad a phroffesiynoldeb trwy gydol ei gyfnod yn ôl gyda'r clwb. 

"Bydd ei arweinyddiaeth a'i lwyddiannau y tymor diwethaf yn cael eu cofio'n annwyl am byth.

"Mae'r clwb yn bwriadu penodi olynydd parhaol cyn gynted â phosib."

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.