Gweithiwr cymdeithas dai a fu farw wedi cael ei thrywanu yn ei chalon

Eleanor Barnfield

Mae cwest wedi clywed bod gweithwraig cymdeithas dai a fu farw ar ôl digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei thrywanu yn y galon.

Bu farw Eleanor Ann Barnfield, 47 oed, yn yr ysbyty ar 19 Hydref, ar ôl i barafeddygon ddod o hyd iddi gydag anafiadau i'w brest ar ôl gwrthdrawiad ffordd ar Heol Coety.

Mae Clifford Foster, 61 oed, eisoes wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.

Wrth agor y cwest ddydd Iau, clywodd Llys y Crwner Pontypridd mai achos marwolaeth dros dro Ms Barnfield oedd "clwyf trywanu i'r torso a oedd yn cynnwys y galon".

Dywedodd swyddog y crwner wrth y gwrandawiad fod Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiad am wrthdrawiad ffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 19 Hydref 2026.

"Daeth parafeddygon oedd yn bresennol o hyd i glwyf trywanu i frest y gyrrwr, Eleanor Barnfield," meddai.

Cafodd Ms Barnfield ei chludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd y crwner Rachel Knight y byddai'r cwest yn cael ei agor, ond y byddai'n cael ei ohirio nes bod yr ymchwiliad troseddol wedi dod i ben.

Roedd Eleanor Barnfield yn gweithio i gymdeithas dai Cymoedd i'r Arfordir (Valleys to Coast).

Cyhuddiad o lofruddiaeth

Cafodd Clifford Foster ei gyhuddo ar ôl ymgyrch heddlu sylweddol yn ardal Ger-y-Nant, lle'r oedd yn byw.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan wrandawiad i gofnodi ple ac i baratoi ar gyfer achos llys ar 23 Tachwedd.

Mae dyddiad dros dro wedi'i bennu ar gyfer dechrau'r achos ar 12 Ebrill 2027.

'Hi oedd ein craig'

Mewn teyrnged flaenorol, disgrifiodd teulu Ms Barnfield hi fel y fam "fwyaf cariadus" a'r "person dewraf yn y byd".

"Roedd hi'n golygu popeth i ni, a bydd ei theulu a'i ffrindiau ymroddedig yn ei charu ac yn gweld ei heisiau am byth.

"Hi oedd ein craig."

Dywedodd prif weithredwr cymdeithas dai Valleys to Coast, Jo Oak, ei bod wedi'i "dinistrio" gan farwolaeth drasig eu cydweithiwr.

"Roedd Eleanor yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Valleys to Coast, ac mae ei cholled wedi cael effaith ddofn ar bawb oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio gyda hi.

"Gwnaeth gyfraniad pwysig i'n sefydliad ac i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, a bydd ei chydweithwyr yn ei chofio gyda chynhesrwydd ac anwyldeb mawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.