Teyrngedau i blismon 'anhygoel' Heddlu'r De yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i blismon Heddlu De Cymru a fu farw yn annisgwyl dros y penwythnos.
Roedd Tony Phipps yn Gwnstabl gyda'r llu, ac mewn teyrnged dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: "Mae fy meddyliau gyda'i blant Sara, Rhian, Tony a Bethan. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi yn ystod yr adeg anodd hon.
"Roedd Tony yn swyddog heddlu anhygoel a oedd yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gymuned Treforys a dwyrain Abertawe am dros 38 o flynyddoedd. Mae gwasanaethu mewn plismona ymateb am gymaint o amser, ac aros yr un mor frwdfrydig, proffesiynol ac ymroddedig ar hyd y blynyddoedd, yn rhywbeth gwirioneddol ryfeddol."
Ychwanegodd Mr Vaughan: "Bu hefyd yn diwtor i lawer iawn o swyddogion drwy gydol ei yrfa, gan drosglwyddo ei wybodaeth a'i sgiliau sylweddol i eraill, ac rwy'n gwybod bod y bobl a oedd yn gweithio gydag ef yn ymddiried ynddo ac yn ei werthfawrogi'n fawr."
Fe gafodd PC Phipps ei gydnabod yn diweddar am ei wasanaeth drwy dderbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig gan y Prif Gwnstabl Vaughan yng Ngwobrau Tîm Heddlu De Cymru 2026.
Fe gafodd hefyd Wobr Cyflawniad Oes i Swyddogion yr Heddlu yn 2018.
Dywedodd Côr Meibion Dynfant mewn teyrnged iddo: "Mae’r newyddion trist hwn wedi’n llorio i gyd. Bu Tony yn rhan o deulu Côr Meibion Dyfnant am dros 40 mlynedd, yn gyntaf fel aelod o’r côr ac, yn ddiweddarach, fel ein cyfeilydd.
"Roedd ei ddawn gerddorol, ei ymroddiad a’i gyfeillgarwch yn golygu cymaint i ni gyd. Mae ei gyfraniad i’r côr dros gyfnod mor hir wedi bod yn amhrisiadwy, a bydd ei golled yn cael ei deimlo’n ddwfn gan bob un ohonom.