Y llywodraeth yn galw cais am ganolfan ddata yn nwyrain Caerdydd i mewn

Maes parcio

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi galw cais cynllunio am ganolfan ddata ddadleuol yn nwyrain Caerdydd i mewn, gan gymryd y cyfrifoldeb am benderfynu arno oddi ar gyngor y ddinas.

Roedd disgwyl i Gyngor Caerdydd ddechrau trafod cais y datblygwr, Curtis Hall Ltd, ddydd Iau, gyda swyddogion y cyngor wedi argymell cymeradwyo’r cynlluniau dadleuol ar gyrion Llanrhymni.

Fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar S4C adrodd ar y cynlluniau a’r pryderon ynghylch y ganolfan ddata fis diwethaf.

Byddai’r ganolfan yn cael ei hadeiladu ar safle parcio a theithio sy’n cynnig 1,000 o leoedd parcio i staff a chleifion sy’n teithio i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd y cynllun wedi sbarduno mwy na 3,000 o wrthwynebiadau, gyda dim ond dau sylw wedi’u cofnodi o blaid.

Bydd y cyfrifoldeb am benderfynu ar y cais nawr yn cael ei drosglwyddo i weinidog cynllunio Llywodraeth Cymru, Siân Gwenllian.

Dywedodd Nick Carter a Zaynub Akbar o Blaid Cymru fod y penderfyniad yn nodi carreg filltir bwysig i drigolion sy’n poeni am effaith y cynllun ar gymunedau cyfagos.

Dywedodd Mr Carter: “Dyma’r penderfyniad cywir ac mae’n gam mawr ymlaen i bawb sydd wedi brwydro i amddiffyn y gymuned hon.”

Ychwanegodd: “Fe wnaethon ni ofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd oherwydd bod datblygiad o’r maint hwn, gyda risgiau mor ddifrifol, yn haeddu’r craffu mwyaf trylwyr posibl.

“Po fwyaf rydyn ni wedi craffu ar y cais hwn, y mwyaf pryderus yw’r cwestiynau sydd wedi codi.”

Dywedodd cynghorwyr Llafur Llanrhymni, Lexi Gauci a Lee Bridgeman, eu bod nhw’n croesawu’r penderfyniad.

“Rydyn ni wedi dweud o’r cychwyn fod datblygiad o’r maint hwn yn haeddu’r lefel uchaf o graffu, tryloywder ac atebolrwydd,” medden nhw.

“Mae heddiw’n gam pwysig ymlaen, ond nid dyma ddiwedd y broses. Dyw galw cais i mewn ddim yn golygu’n awtomatig y bydd yn cael ei wrthod.

“Mae’n golygu mai ar lefel Llywodraeth Cymru y bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried bellach.”

Buddsoddiad

Roedd adroddiad swyddogion Cyngor Caerdydd wedi cydnabod y byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar gynefinoedd naturiol y safle, gan gynnwys colli coetir, prysgwydd a glaswelltir.

Roedd hefyd yn nodi effeithiau posib ar rywogaethau gwarchodedig, yn ogystal ag Afon Rhymni ac ardal forol Ewropeaidd Aber Afon Hafren.

Ond yn ôl y swyddogion, byddai manteision economaidd a seilwaith y datblygiad yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau’r effeithiau hynny, yn amodol ar fesurau i’w lliniaru.

Byddai’r cynllun yn denu buddsoddiad mewn technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â darparu pont newydd rhwng Pentwyn a Llanrhymni a gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio, medden nhw.

Roedd y datblygwr, Curtis Hall Ltd, wedi gwadu honiadau y byddai’r ganolfan ddata yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr ardal leol.

Mae’r cwmni hefyd wedi cadarnhau y bydd darpariaeth barcio’r GIG ar y safle yn parhau nes bod lleoliad arall addas wedi’i gynnig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.