Y canolbarth a'r de-orllewin i brofi tywydd oer cynta'r tymor

rhew ar gar

Bydd cyfnod oer cynta'r tymor yn taro canolbarth a de-orllewin Cymru a sawl rhanbarth ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn y dyddiau nesaf. 

Yn ôl y rhagolygon, gallai'r tymheredd ostwng bum gradd o dan y rhewbwynt mewn ambell ardal. 

Gyda gwyntoedd oer a chawodydd, mae'n ymddangos mai ardaloedd gwledig yn y canolbarth a'r de-orllewin fydd yn profi'r tywydd oeraf yng Nghymru, yn ogystal â gogledd-orllewin, de a chanolbarth Lloegr, a de'r Alban.  

Yn ôl Paddy Manning o Swyddfa'r Tywydd, bydd y deuddydd nesaf yn "dod â thymheredd oeraf y tymor hyd yn hyn." 

Dywedodd: "Nos Iau, nos Wener, ry'n ni  yn sicr yn disgwyl tywydd oer, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a gallai'r tymheredd ddisgyn i -5C mewn ambell ardal."

Ond does dim disgwyl i 'r tywydd oer barhau, yn ôl dadansoddwyr  

Mae arweinwyr iechyd yn rhybuddio y gallai'r oerfel achosi problemau i bobl bregus dros 65 oed a'r cyngor ydy i wirio bod ffrindiau, aelodau o'r teulu a chymdogion yn ymdopi. 

Mae disgwyl i'r cyfnod oer barhau tan nos Sadwrn cyn troi'n fwynach ddydd Sul ac wythnos nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.