Ysbyty Gwynedd: Mam yn galw am fwy o ystyriaeth ar ôl dirwy parcio
Mae mam o Ynys Môn yn galw am fwy o gydymdeimlad ac ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl cael dirwy parcio o £50 wrth fynd â’i mab wyth wythnos oed i’r ysbyty am driniaeth frys.
Roedd Lara Hamilton, o Lannerch-y-medd, wedi gorfod parcio yn y maes parcio arhosiad byr yn Ysbyty Gwynedd, gan nad oedd lle ar gael yn y prif faes parcio.
Roedd ei mab yn dioddef o RSV, feirws sy’n gallu achosi salwch difrifol mewn babanod, ac roedd Lara yn poeni am ei gyflwr.
“Doedden ni ddim yna o'n dewis ni. Roedden ni yna oherwydd bod ein babi wyth wythnos oed angen sylw meddygol,” meddai.
Wrth ddychwelyd at eu car, sylweddolodd Lara a’i gŵr eu bod wedi cael dirwy parcio o £50.
“Wnaethon ni dybio, yn naturiol, o ystyried yr amgylchiadau, y byddai hyn yn cael ei ystyried gyda rhyw fath o ddealltwriaeth a chydymdeimlad," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn deall bod cyfyngiadau parcio yn angenrheidiol, ond bod angen ystyried amgylchiadau eithriadol.
“Pan nad oes digon o lefydd parcio ar gael a bod rhieni’n rhuthro babi sy’n ddifrifol wael i’r ysbyty, mae’n siŵr bod angen rhywfaint o synnwyr cyffredin," meddai.
Dirwyon parcio Ysbyty Gwynedd
Ym mis Ionawr, datgelodd ymchwiliad gan Newyddion S4C fod mwy na £250,000 wedi’i gasglu mewn dirwyon parcio yn Ysbyty Gwynedd ers 2021.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bryd hynny mai dim ond pan fo tystiolaeth gadarn bod gyrwyr wedi parcio yn groes i’r rheoliadau y bydd swyddogion yn cymryd camau gorfodi.
Wythnos ar ôl i Lara gael ei dirwy, cododd Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bangor Conwy Môn, y problemau parcio yn y Senedd.
Dywedodd fod cleifion wedi bod yn cael trafferth dod o hyd i lefydd parcio addas, weithiau ar ôl gyrru o gwmpas y maes parcio am bron i awr.
Ychwanegodd fod rhai yn barod i fentro cael dirwy er mwyn peidio â cholli eu hapwyntiadau.
I Lara, y prif bryder yw’r diffyg dealltwriaeth o sefyllfa teuluoedd sy’n gorfod mynd â’u plant i’r ysbyty mewn argyfwng.
“Does neb yn dewis mynd a’u babi wyth wythnos oed i’r ysbyty,” meddai.
“Ddylai neb orfod poeni am ddirwyon parcio pan maen nhw’n poeni am iechyd eu plentyn. Fedri di ddim cosbi rhieni am flaenoriaethu bywyd eu babi difrifol o wael dros symud car.
“Dydi o byth wedi bod jyst am y pres. Mae o am y diffyg cydymdeimlad, dealltwriaeth a synnwyr cyffredin.”
‘Sefyllfa anodd’
Dywedodd Arwel Hughes, Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd ac Ystadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei fod yn flin o glywed am brofiad Lara.
“Rydym yn cydnabod y gallai gorfod dod â baban sy’n ddifrifol wael i’r ysbyty fod wedi bod yn sefyllfa hynod anodd. Rydym yn gobeithio bod y plentyn wedi gwella’n llwyr a’i fod yn mynd o nerth i nerth erbyn hyn," meddai.
“Rydym yn cydnabod yn llawn pa mor heriol y gall parcio fod ar draws ein tri phrif safle ysbyty, i gleifion, ymwelwyr a staff.
“Er nad oes atebion cyflym na hawdd, o ystyried y cyfyngiadau ariannol a’r prinder tir sydd ar gael ger ein hysbytai, rydym wedi ymrwymo i ystyried pob cyfle i wella’r sefyllfa.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn gwerthfawrogi y gall mynd i’r ysbyty, fel claf neu ymwelydd, fod yn brofiad anodd ar y gorau, ac mae’n ddrwg gennym glywed bod pobl yn cael trafferth dod o hyd i lefydd parcio.
“Er mai cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw darparu digon o gyfleusterau parcio i gleifion, staff ac ymwelwyr yn Ysbyty Gwynedd, mae gennym gytundeb gyda’r Bwrdd Iechyd i reoli’r maes parcio ar eu rhan.
“Mae dyletswyddau’r Cyngor yn cynnwys sicrhau bod y meysydd parcio yn parhau’n ddiogel ac yn hygyrch i bawb. Dim ond pan fo tystiolaeth gadarn bod gyrwyr wedi parcio yn groes i’r rheoliadau y bydd swyddogion gorfodaeth yn cymryd camau."
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru yn ymdrin â phob her yn erbyn tocynnau parcio ar ran awdurdodau lleol Cymru. Gall unrhyw un sy’n credu ei fod wedi derbyn tocyn yn annheg apelio drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y tocyn.
“Dylai aelodau o’r cyhoedd sydd â phryderon am bolisïau parcio neu reolaeth maes parcio gysylltu â pherchennog y maes parcio, sef y Bwrdd Iechyd yn yr achos hwn.”