Rhybudd am ‘ganlyniadau difrifol’ pe bai pedwar heddlu Cymru’n uno
Byddai cwtogi ar nifer y lluoedd heddlu yng Nghymru o bedwar i un yn arwain at ‘ganlyniadau difrifol’ ac yn ‘gwaethygu effeithlonrwydd’ yn ôl un o gyn-gomisiynwyr Heddlu’r Gogledd.
Yn ôl Winston Roddick KC does ‘dim achos dilys’ dros gwtogi ar y nifer presennol gan ddweud fod tystiolaeth yn dangos fod lluoedd Cymru yn perfformio’n gadarnhaol.
Roedd yn ymateb i sylwadau Comisiynydd Heddlu’r Met Syr Mark Rowley sy’n rhybuddio fod yn rhaid i heddluoedd Cymru a Lloegr foderneiddio neu wynebu “methiant difrifol”.
Gyda dyfodol heddlua eisoes yn bwnc trafod gan Lywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad papur gwyn yn gynharach eleni, galw am ddatganoli grymoedd yr heddlu mae Llywodraeth Cymru.
Mae’r papur gwyn gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026 yn ystyried ffiniau newydd lluoedd, a Chomisiynydd y Met wedi dweud ei fod am weld llai o luoedd na’r 43 llu presennol yng Nghymru a Lloegr.
Ysgrifennydd Cartref
Brynhawn Mercher mi gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y bwriad i greu tua 200 o ranbarthau lleol, gyda phob un dan arweiniad uwch swyddog penodol.
Y gobaith meddai ydi sicrhau fod yr heddlu yn agosach at gymunedau, ond na fyddai’n rhuthro unrhyw newidiadau pellgyrhaeddol.
Mi fyddai unrhyw newidiadau i ffiniau lluoedd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr yn y Bil Diwygio'r Heddlu.
Mae’n awgrymu rhwng wyth i 10 llu rhanbarthol sy’n cael eu cefnogi gan un strwythur i Gymru a Lloegr.
Brynhawn Mercher mi gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y bwriad i greu tua 200 o ranbarthau lleol, gyda phob un dan arweiniad uwch swyddog penodol o fewn y lluoedd presennol.
Y gobaith meddai ydi sicrhau fod yr heddlu yn agosach at gymunedau ond na fyddai’n rhuthro unrhyw newidiadau pellgyrhaeddol.
Mi fyddai unrhyw newidiadau i ffiniau lluoedd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr yn y Bil Diwygio'r Heddlu.
Ond wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd Winston Roddick KC, fu’n blismon, yn fargyfreithiwr ac yn Gomisiynydd yr Heddlu dros Ogledd Cymru, nad oes achos dros newid tebyg.
"Os 'da ni am leihau i un llu yng Nghymru, ‘sa hynny yn fy marn pendant i yn gwaethygu effeithlonrwydd," meddai.
"Mae’r canlyniadau yn mynd i fod yn ddifrïol ga’i ddweud.
"Allwch chi ddychmygu un llu dros Gymru gyfan a be' ydi hyd Cymru a’r amser mae’n cymryd i deithio o un ochr o’r wlad i’r llall.
"Does dim achos, dim achos dilys na dadleuon dilys o blaid lleihau y nifer o lluoedd."
'Cyfle euraidd i ddatganoli'
Yn ôl cefnogwyr y syniad, fe fyddai cwtogi ar nifer y lluoedd yn torri costau, gwneud arbedion ac yn dod â chysondeb ar draws y pedwar llu presennol.
Ond yn ôl Gareth Pritchard fu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl dros Ogledd Cymru ac sydd bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor, does dim sicrwydd y byddai newidiadau mor bellgyrhaeddol yn arwain at welliannau.
"Mae ‘na newidiadau mawr ar y gweill," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Ond mae’n rhaid i ni gofio, dydi heddluoedd mawr heb fod yn rai llwyddiannus o’r ochr perfformiad, disgyblaeth nag atebolrwydd felly mae nifer o’r comisiynwyr heddluoedd gwledig llai yn ateb yn ôl ac yn dweud - wel edrychwch ar berfformiad ni ac atebolrwydd ni a sut da ni’n gweithio efo cymunedau.
"Mae 'na arian i’w arbed, mae 'na newid i’w wneud, ond dydi lleihau y nifer o heddluoedd ddim yn mynd i ateb y pryderon i gyd."
Tra’n credu fod yna angen amlwg i foderneiddio a bod 43 o luoedd drwy Gymru a Lloegr ddim o reidrwydd yn "effeithiol", mae’n dweud fod yna angen am sicrwydd ac eglurder.
Gyda disgwyl i’r drafodaeth dros ail strwythuro barhau am fisoedd i ddod, atgyfnerthu eu galw mae Llywodraeth Cymru i rymoedd heddlua gael eu datganoli.
Mae’n alwad sydd wedi ei gwneud gan lywodraethau Plaid Cymru a Llafur yng Nghymru yn y gorffennol, ac yn ôl Prif Weinidog y DU Andy Burnham mae’n "agored i’r drafodaeth honno".
Yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mi fyddai’n sicrhau fod gan luoedd y cysondeb a grymoedd sydd eu hangen.
"Dy' ni ddim yn dadlau yn erbyn unrhyw gymalau sydd yn y papur gwyn," meddai.
"Be' da ni’n gofyn amdano o ran fy ochr i fel Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yw datganoli'r pwerau rheini i Gymru.
"Os bod newidiadau yn mynd i ddod i Gymru o ran llywodraethiant yr heddlu, dyma yw’r cyfle euraidd i wneud y cam nesaf sef datganoli."
Ym mis Awst, dywedodd y Prif Weinidog Andy Burnham ei fod yn "agored" i drafod datganoli heddlua i Gymru a bod y newidiadau sydd i ddod yn y maes yn cynnig cyfle da i drafod.
Ategu’r neges honno wnaeth yr Ysgrifenydd Cabinet dros Gyfiawnder, Alex Norris yr wythnos hon.
Dywedodd llefarydd ar Llywodraeth Cymru: "Er mai San Steffan sy’n gyfrifol am blismona, credwn fod yn rhaid i unrhyw ddiwygiadau gael eu llywio gan yr hyn sy'n mynd i gyflawni'r canlyniad gorau i ddinasyddion, sy'n atebol i gymunedau lleol, ac yn y pen draw yn gwneud Cymru yn lle mwy diogel a gwell i fyw.
"Dylid felly gyhoeddi'r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Lluoedd fel y gallwn ystyried ei argymhellion a'i oblygiadau i Gymru."