Cyn-adeiladwr o Benarth yn datblygu ap i leihau'r pwysau ar grefftwyr

Rob Taylor gyda ei wraig

Mae cyn-adeiladwr o Benarth wedi datblygu ap newydd i geisio lleihau'r pwysau gweinyddol ac ariannol ar grefftwyr hunangyflogedig.

Mae Rob Taylor, 34 oed, a'i wraig wedi datblygu ap o'r enw Adminmate, sy'n gallu creu anfonebau a dyfynbrisiau, trefnu apwyntiadau a helpu adeiladwyr i reoli eu gwaith o ddydd i ddydd.

Y nod yw lleihau'r amser y mae crefftwyr yn ei dreulio ar waith papur, gan roi mwy o amser iddyn nhw ganolbwyntio ar eu gwaith a'u bywydau personol.

Mae'r ap yn cael ei brofi ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o'i lansio ar 19 Tachwedd, sef Diwrnod Rhyngwladol y Dynion.

Mae Rob wedi datblygu'r ap wrth i ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddangos bod 512 o farwolaethau drwy hunanladdiad wedi'u cofrestru ymhlith gweithwyr adeiladu yng Nghymru a Lloegr yn 2024.

Yn ôl Ffederasiwn y Prif Adeiladwyr, mae gweithwyr y diwydiant adeiladu tua thair i bedair gwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na'r boblogaeth gyffredinol.

'Anodd cadw ar ben popeth'

Mae Rob, sydd bellach yn gweithio fel dadansoddwr busnes i gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd, wedi gweithio fel adeiladwr i gwmni ei dad yn y gorffennol.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r pwysau sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes yn y crefftau, yn enwedig i'r rhai sy'n hunangyflogedig.

"Mae llawer o bobl yn gwneud y cyfan eu hunain, ac mae'n anodd iawn cadw ar ben popeth.

"Unwaith mae pethau'n dechrau mynd o chwith, mae'n anodd cael popeth yn ôl dan reolaeth.

"Mae pethau'n gallu pentyrru a mynd yn anodd iawn, yn enwedig o ran llif arian. Os ydych chi'n gwneud camgymeriad, gall hynny gostio llawer o arian."

Dywedodd Rob fod gwaith gweinyddol yn gallu bod yn faich ychwanegol ar ôl diwrnod hir o waith corfforol.

Gyda chymorth ei frawd, sy'n ddatblygwr meddalwedd, dechreuodd Rob a'i wraig ddatblygu Adminmate tua naw mis yn ôl.

Image
Rob Taylor a'i wraig
Rob Taylor a'i wraig (Llun: Rob Taylor)

Ap i leihau'r gwaith papur

Mae'r ap wedi'i gynllunio i helpu crefftwyr i reoli tasgau gweinyddol mewn un lle, ar eu ffôn neu eu gliniadur.

Gall greu dyfynbrisiau ac anfonebau, cofnodi negeseuon, trefnu apwyntiadau gyda chwsmeriaid a helpu i drefnu dyddiadau dechrau gwaith.

Hefyd gall defnyddwyr osod eu prisiau a'u dewisiadau wrth ddechrau defnyddio'r ap.

Mae ffrindiau a theulu Rob yn profi Adminmate ar hyn o bryd, cyn y lansiad arfaethedig ar 19 Tachwedd.

Mae Rob hefyd yn bwriadu cynnig yr ap am ddim i grefftwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol, gyda chwsmeriaid sy'n talu yn helpu i ariannu'r cynllun.

Image
Nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad ymhlith gweithwyr adeiladu, yn ôl rhyw, yng Nghymru a Lloegr, 2011–2024 (Ffynhonnell: ONS)

Mae data'r ONS yn dangos bod 512 o farwolaethau drwy hunanladdiad wedi'u cofrestru ymhlith gweithwyr adeiladu yng Nghymru a Lloegr yn 2024.

Mae'r ffigur yn uwch na'r 479 o farwolaethau a gofrestrwyd yn 2023, a dyma'r nifer uchaf yn y gyfres ddata rhwng 2011 a 2024.

O'r 512 o farwolaethau yn 2024, roedd 507 yn ddynion.

Mae Ffederasiwn y Prif Adeiladwyr wedi nodi bod cyfradd hunanladdiad yn y diwydiant adeiladu tua 29.1 fesul 100,000 o weithwyr, o gymharu â 9.6 fesul 100,000 yn y gymhariaeth genedlaethol a ddefnyddiwyd ganddynt.

Yn ôl y ffederasiwn, mae oriau gwaith hir, ansicrwydd swyddi, pwysau ariannol ac anhawster siarad am iechyd meddwl ymhlith yr heriau sy'n wynebu gweithwyr.

'Her sydd wedi bodoli ers cenedlaethau'

Mae Aled Edwards, sy'n gwirfoddoli gyda Mind Cymru ac yn gweithio gydag elusen Lighthouse, sydd yn arbenigo mewn rhoi cymorth i weithwyr yn y diwydiant adeiladu, yn galw am newid diwylliant y diwydiant er mwyn annog mwy o ddynion i siarad am eu hiechyd meddwl.

"Rwy’n meddwl mai un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu ni yn y diwydiant adeiladu ydy’r diwylliant sydd wedi bodoli ers cenedlaethau, yn enwedig o ran beth mae bod yn ddyn yn ei olygu," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae disgwyl i ni fod yn gryf, bod yn wydn, darparu ar gyfer ein teuluoedd a jest bwrw ymlaen, waeth beth sy’n digwydd yn ein bywydau.

"Os ydy technoleg yn gallu helpu i leihau rhywfaint o’r baich gweinyddol hwnnw, yna rwy’n meddwl bod hynny’n gam cadarnhaol iawn. Rydyn ni o bosib yn rhoi rhywbeth hynod werthfawr yn ôl i bobl, sef amser."

Image
Aled Edwards o Fangor
Aled Edwards

Ond pwysleisiodd Aled nad yw lleihau llwyth gwaith yn ddigon ar ei ben ei hun, a bod angen rhoi cymaint o sylw i iechyd meddwl gweithwyr ag i'w diogelwch corfforol.

"Rydyn ni wedi dangos fel diwydiant ein bod ni’n gallu rhoi systemau, hyfforddiant a gweithdrefnau yn eu lle pan rydyn ni’n cydnabod bod rhywbeth yn risg ddifrifol. 

"Ond pan ddaw hi at atal hunanladdiad, dydw i ddim yn credu ein bod ni’n rhoi’r un lefel o sylw iddo yn gyson.

"Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu y dylen ni fuddsoddi llai mewn iechyd a diogelwch corfforol. 

"Yr hyn rwy’n ei ddweud ydy y dylen ni fod yn rhoi cymaint yn union o ymdrech i ddiogelu lles meddyliol pobl.

"Oherwydd yn sicr, dylai sicrhau bod rhywun yn cyrraedd adref yn ddiogel olygu mwy na sicrhau nad ydyn nhw wedi disgyn oddi ar ysgol neu gael eu hanafu gan beiriant. Dylai hefyd olygu adnabod pan mae rhywun yn cael trafferth yn feddyliol a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod ble i droi am gymorth."

Mae elusen Lighthouse yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i weithwyr adeiladu a'u teuluoedd, ac mae Aled yn galw am ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddangos bod gan eu gweithwyr fynediad at gymorth iechyd meddwl wrth dendro am waith.

"Yma yng Nghymru, rwy’n meddwl ei bod hi hefyd yn hynod bwysig bod cymorth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan mae rhywun yn cael trafferth gyda’i iechyd meddwl, mae gallu mynegi ei hun yn ei iaith gyntaf yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr."

'Siaradwch â rhywun'

Wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion agosáu, mae Rob yn annog gweithwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i geisio cymorth.

"Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw siarad â rhywun.

"Ceisiwch nodi beth sy'n achosi'r problemau rydych chi'n eu hwynebu, a beth yn union sy'n eich poeni.

"Yn rhy aml, hyd yn oed pan rydyn ni'n gwybod beth yw'r broblem, rydyn ni'n dal ati ac yn dioddef yn dawel.

"Felly siaradwch â rhywun, ceisiwch ddeall beth sy'n achosi'r broblem a gwnewch rywbeth amdani.

"Cymerwch gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.