Pump wedi eu lladd ar ôl i ddyn ddechrau ‘saethu at bobl ar hap o’i gar’ yn Kraków

Krakow

Mae pump o bobl wedi cael eu lladd mewn saethu ym Mhrif Sgwâr y Farchnad yn Kraków yng Ngwlad Pwyl, meddai'r heddlu yno.

Dywedodd Heddlu Małopolska fod tua dwsin o bobl wedi eu hanafu, gan gynnwys swyddogion heddlu.

Mewn datganiad ar X, dywedodd yr heddlu fod dyn wedi gyrru i'r sgwâr tua 15:00 amser lleol cyn dechrau “saethu at bobl ar hap o’i gar”.

Cafodd y dyn ei saethu gan yr heddlu ac mae’n cael ei gludo i’r ysbyty, yn ôl datganiad arall.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyfrif swyddogol dinas Kraków:

“Cafodd ergydion eu tanio ym Mhrif Sgwâr y Farchnad. Mae’r gwasanaethau brys eisoes yn y fan a’r lle. Mae’r heddlu hefyd yn cynnal ymgyrch ar Stryd Dietla.

“Rydyn ni’n aros am gadarnhad swyddogol o faint y digwyddiad, gan gynnwys gwybodaeth am nifer y bobl sydd wedi cael eu hanafu.”

Mae’r ddinas yn gofyn i drigolion osgoi’r ardal tra bod yr heddlu’n ymchwilio.

Llun: Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.