Caerdydd: Argymell cymeradwyo cynllun dadleuol i adeiladu canolfan ddata

Llun: ITV Cymru
canolfan ddata Caerdydd

Mae swyddogion Cyngor Caerdydd wedi argymell cymeradwyo cynlluniau dadleuol i adeiladu canolfan ddata yn nwyrain y brifddinas.

Cafodd dros 3,000 o sylwadau gan y cyhoedd eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori, gyda bron pob un yn gwrthwynebu'r datblygiad.

Mae'r cynlluniau i drawsnewid safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd wedi wynebu gwrthwynebiad ers mis Ionawr, gyda phryderon am yr effaith ar yr amgylchedd, ansawdd aer, sŵn a cholli'r cyfleuster parcio a theithio sy'n gwasanaethu Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar S4C adrodd ar y cynlluniau a'r pryderon ynghylch y ganolfan ddata fis diwethaf.

Bydd pwyllgor cynllunio arbennig Cyngor Caerdydd yn trafod cais y datblygwr, Curtis Hall Ltd, ddydd Iau, 12 Tachwedd.

Ond mae cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn atal y cyngor rhag cymeradwyo'r cais ar hyn o bryd, tra bod Gweinidogion Cymru yn ystyried a ddylen nhw wneud y penderfyniad terfynol eu hunain.

Mae swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar benderfyniad Gweinidogion Cymru.

Yn ôl dogfennau'r cyngor, fe gafodd dros 3,000 o sylwadau unigol eu cyflwyno am y cynlluniau, gyda dim ond un llythyr yn cefnogi'r datblygiad.

Roedd nifer o Aelodau Seneddol, Aelodau o'r Senedd, cynghorwyr lleol a grwpiau cymunedol ymhlith y rhai a gododd bryderon.

Mae adroddiad y swyddogion yn cydnabod y byddai'r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar gynefinoedd naturiol y safle, gan gynnwys colli coetir, prysgwydd a glaswelltir.

Mae hefyd yn nodi effeithiau posib ar rywogaethau gwarchodedig, yn ogystal ag Afon Rhymni ac ardal forol Ewropeaidd Aber Afon Hafren.

Ond yn ôl y swyddogion, byddai manteision economaidd a seilwaith y datblygiad yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau'r effeithiau hynny, yn amodol ar fesurau i'w lliniaru.

Byddai'r cynllun yn denu buddsoddiad mewn technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â darparu pont newydd rhwng Pentwyn a Llanrhymni a gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio, medden nhw.

Mae'r datblygwr, Curtis Hall Ltd, wedi gwadu honiadau y byddai'r ganolfan ddata yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr ardal leol.

Mae'r cwmni hefyd wedi cadarnhau y bydd darpariaeth barcio'r GIG ar y safle yn parhau nes bod lleoliad arall addas wedi'i gynnig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.