Dirwyon o hyd at £2,500 dan gynllun i wahardd gwerthu diodydd egni i blant

Diodydd Egni.

Gallai busnesau yng Nghymru wynebu dirwyon o £2,500 am werthu diodydd egni â lefelau uchel o gaffein i blant dan 16 oed, o dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad ar sut y byddai gwaharddiad ar werthu'r diodydd yn cael ei gyflwyno a'i orfodi.

Byddai'r gwaharddiad yn berthnasol i ddiodydd sy'n cynnwys mwy na 150mg o gaffein y litr, ond ni fyddai'n cynnwys te na choffi.

Yn ôl y cynigion, gallai unigolion a busnesau sy'n cyflogi llai na 50 o bobl wynebu dirwy benodedig o £1,500 am dorri'r rheolau, gyda dirwy o £2,500 i fusnesau canolig a mawr.

Byddai modd talu hanner y swm o fewn cyfnod penodol, ond gallai'r ddirwy gynyddu 50% os na chaiff ei thalu mewn pryd ac na fydd apêl wedi'i chyflwyno.

Byddai gwerthu'r diodydd i blant dan 16 oed hefyd yn drosedd, gyda'r posibilrwydd o erlyniad mewn achosion difrifol neu achosion lle mae'r rheolau'n cael eu torri dro ar ôl tro.

Image
Diodydd Egni

Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol Llywodraeth Cymru, Nerys Evans, fod y dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu cysylltiad rhwng yfed diodydd egni â lefelau uchel o gaffein a phroblemau iechyd ymhlith plant.

"Mae yfed y diodydd hyn wedi'i gysylltu â chur pen, blinder, poenau stumog a phroblemau cysgu, yn ogystal â risg uwch o straen, gorbryder ac iselder," meddai.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynlluniau i wahardd gwerthu'r diodydd i blant dan 16 oed, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

Gorfodi'r gwaharddiad

Byddai'r rheolau'n berthnasol i siopau, bwytai, caffis a busnesau sy'n gwerthu diodydd ar-lein.

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu gwahardd gwerthu'r diodydd drwy bob peiriant gwerthu awtomatig, gan gynnwys mewn lleoliadau sy'n cael eu defnyddio'n bennaf gan oedolion.

Byddai awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi'r gwaharddiad.

Mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried newidiadau i'r gyfraith er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio rhai dulliau profi prynu a gwyliadwriaeth i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r rheolau.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar sut y dylid gwirio oedran pobl sy'n prynu'r diodydd ar-lein.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 72% o'r 331 o ymatebwyr i ymgynghoriad blaenorol yn 2022 o blaid cyfyngu ar werthu'r diodydd i blant.

Mae'r cynlluniau'n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad tebyg yn Lloegr o fis Ebrill 2027, yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd y DU.

Image
Nerys Evans

Dywedodd Nerys Evans fod yr ymgynghoriad diweddaraf yn gam pwysig wrth ystyried sut y gellid cyflwyno'r cyfyngiadau yng Nghymru.

Yn ôl y dirprwy weinidog, nod y cynllun yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Wrth ymateb i'r cynigion, dywedodd Ed Woodall, prif weithredwr Cymdeithas y Siopau Cyfleustra, fod gan siopau lleol brofiad helaeth o reoli gwerthiant cynhyrchion sydd â chyfyngiadau oedran.

"Mae gan siopau lleol hanes cryf o reoli cynhyrchion sydd â chyfyngiadau oedran, a byddan nhw'n defnyddio'r un gofal i atal plant dan 16 oed rhag cael diodydd egni," meddai.

Ychwanegodd fod y mwyafrif helaeth o siopau cyfleustra eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau oedran gwirfoddol ar werthu'r diodydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfnod o chwe mis rhwng gwneud y rheoliadau a'u rhoi ar waith, er mwyn rhoi amser i fusnesau baratoi.

Nid oes dyddiad wedi'i gadarnhau eto ar gyfer cyflwyno'r gwaharddiad yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Rhagfyr 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.