Llanelli: Cabinet Cyngor Sir Gâr yn rhoi sêl bendith i ysgol newydd i ddisgyblion Heol Goffa

Ysgol Heol Goffa

Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi cytuno'n derfynol i gynllun i adeiladu ysgol arbennig newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Heol Goffa yn Llanelli.

Fe gytunodd aelodau’r Cabinet i symud ymlaen â’r cynnig i adeiladu’r ysgol ar safle newydd, gyda lle i 150 o ddisgyblion, mewn cyfarfod ar ddechrau'r wythnos.

Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgyrch hir gan rieni yn galw am adeilad newydd i’r ysgol.

Mae'r penderfyniad yn amodol ar gyfnod rhybudd statudol, a fydd yn dechrau ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 am gyfnod o 28 diwrnod.

Bydd y cyfnod hwn yn "rhoi cyfle pellach i rieni, athrawon, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol ddweud eu dweud" meddai'r cyngor.

Bydd yr ysgol newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (SLD) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD) yn ardal Llanelli.

Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd 132 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mis Mehefin eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: “Bydd penderfyniad y Cabinet yn galluogi mwy o ddisgyblion yn ardal Llanelli gydag SLD a PMLD i dderbyn addysg arbenigol drwy gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Heol Goffa.

"Y cam nesaf yw i ni symud ymlaen i hysbysiad statudol, a gallwn, os cytunwyd arno yn y Cyngor Llawn, symud ymlaen gyda dyfodol newydd cyffrous Ysgol Heol Goffa.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.