Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog i 4% ac yn rhybuddio am gynnydd pellach
Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog am y tro cyntaf ers dros dair blynedd, gan rybuddio y gallai'r cyfraddau gynyddu ymhellach os bydd y rhyfel yn Iran yn parhau.
Fe wnaeth Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr benderfynu codi'r gyfradd sylfaenol o 3.75% i 4% ddydd Iau.
Dyma'r tro cyntaf i gyfraddau llog godi ers mis Awst 2023.
Fe wnaeth pob un o naw aelod y pwyllgor gefnogi cynnydd, er bod un aelod wedi galw am gynnydd mwy o 0.5 pwynt canran.
Dywedodd y Banc fod angen gweithredu i reoli chwyddiant yn economi'r DU, wrth i'r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau, Israel ac Iran barhau i wthio prisiau ynni a thanwydd i fyny.
Mae cyfradd chwyddiant y DU wedi cyrraedd 3.5%, ac mae Banc Lloegr bellach yn rhagweld y gallai gynyddu i tua 5% erbyn canol 2027.
Prisiau ynni
Mae hynny'n sylweddol uwch na tharged y Banc o 2%, gyda phrisiau ynni uwch yn un o'r prif resymau dros y cynnydd disgwyliedig.
Dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Andrew Bailey: ""Mae'r cynnydd ym mhrisiau ynni bellach yn creu digon o bwysau ar chwyddiant i gyfiawnhau codi cyfraddau llog.
"Ond ni ddylid cymryd bod penderfyniad heddiw yn golygu y bydd cyfraddau llog yn parhau i godi dro ar ôl tro am gyfnod hir."
"Ond, oni bai bod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn cael ei ddatrys, mae'n annhebygol mai dyma fydd y tro olaf i'r cyfraddau godi."
Esgid yn gwasgu
Mae'r penderfyniad yn debygol o roi rhagor o bwysau ar rai aelwydydd sydd â morgeisi a benthyciadau, ar adeg pan fo costau byw eisoes yn codi.
Gallai'r cynnydd olygu taliadau misol uwch i rai sydd â morgeisi cyfradd amrywiol, tra gallai'r rhai sydd â morgeisi cyfradd sefydlog wynebu costau uwch pan ddaw eu cytundebau presennol i ben.
Dywedodd y Pwyllgor Polisi Ariannol fod nifer o fusnesau wedi llwyddo i ymdopi â chostau ynni uwch hyd yma drwy dderbyn llai o elw neu ddefnyddio cytundebau i'w hamddiffyn rhag cynnydd sydyn mewn prisiau.
Ond fe wnaeth y pwyllgor rybuddio mai dros dro yn unig y byddai'r mesurau hynny'n debygol o fod.
Pe bai prisiau ynni'n parhau'n uchel, gallai busnesau orfod trosglwyddo'r costau ychwanegol i gwsmeriaid.
Gallai hynny arwain at gynnydd ym mhrisiau bwyd, diod a nwyddau a gwasanaethau eraill mewn siopau ledled y DU.