‘Amser i gyflawni newid sylweddol yn America’, meddai’r Democratiaid
Mae’r Democratiaid yn dweud ei bod hi’n amser “i gyflawni’r newid sylweddol y mae pobl America yn mynnu” yn dilyn buddugoliaeth ysgubol y blaid yn etholiadau canol tymor y wlad.
Fe enillodd y Democratiaid reolaeth dros y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr yn yr etholiadau'r wythnos hon.
Mae’r canlyniad yn ergyd drom i arweinyddiaeth Donald Trump, gan mai’r wrthblaid fydd yn rheoli'r Gyngres am weddill ei gyfnod fel Arlywydd.
Mewn datganiad beirniadol ddydd Mercher, dywedodd yr Is-Arlywydd JD Vance mai’r rhyfel yn Iran oedd “y rheswm pam y gwnaethom ni golli."
Yn ddiweddarach, dywedodd Mr Trump fod hynny’n “wir”, gan fynnu y byddai’n ei wneud eto.
“Dwi’n meddwl bod hynny’n wir ar y cyfan, oherwydd ei fod wedi gwthio prisiau olew i fyny ychydig yn y tymor byr.
“Ond ar yr un pryd, pe bai’n rhaid i mi ei wneud eto, byddwn i’n gwneud hynny, oherwydd yn y tymor hir, dyma’r unig ateb. Allwch chi ddim gadael i Iran gael arf niwclear.”
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod y rhyfel yn Iran “wedi bod yn werth chweil”.
“Roeddwn i’n meddwl y byddai prisiau olew yn codi llawer mwy, ac fe wnes i hynny ar y sail honno,” meddai Trump.
“Does gennych chi ddim dewis. Roedd rhaid i chi wneud hynny. Allwch chi ddim gadael i Iran gael arf niwclear, neu efallai na fydd dim o'r hyn rydych chi'n ei weld yma yn bodoli ryw ddydd.”
Bydd y Democratiaid yn cymryd rheolaeth dros y Gyngres ym mis Ionawr, sy'n golygu y bydd aelod o'r blaid yn dod yn Llefarydd.
Mae Hakeem Jeffries, arweinydd presennol y Democratiaid yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr, wedi cyhoeddi ei fod am ymgeisio i fod yn Llefarydd y Tŷ.
Pe bai'n cael ei ethol, Jeffries fyddai'r Llefarydd du cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Mae'r Llefarydd nid yn unig yn arwain Tŷ'r Cynrychiolwyr, ond hefyd yn arwain y blaid fwyafrifol.
Mewn llythyr at ei gydweithwyr, ysgrifennodd Jeffries: “Er gwaethaf pob disgwyl, fe wnaeth Democratiaid Tŷ'r Cynrychiolwyr lwyddo'n gyson tra oeddent yn y lleiafrif.
“Rhaid i ni nawr gyflawni'r newid sylweddol y mae pobl America yn mynnu.”
Dywedodd fod yn rhaid i'r Gyngres newydd ei hethol “frwydro i wneud America'n fwy fforddiadwy”, gan ychwanegu'n ddiweddarach fod pobl “yn dioddef."
Ychwanegodd: “Ni all Americanwyr cyffredin ffynnu, a phrin eu bod nhw'n gallu goroesi.
“Mae'r dyddiau pan oedd Tŷ'r Cynrychiolwyr yn gweithredu fel petai'n is-gwmni sy'n eiddo'n gyfan gwbl i weinyddiaeth Trump ar ben.
“Bydd y Gyngres yn cyflawni ei rôl fel corff sy'n cadw cydbwysedd ac yn gosod cyfyngiadau ar gangen weithredol o'r llywodraeth sydd allan o reolaeth.”