Record annymunol i Gymru wrth iddyn nhw golli 124-6 yng Nghwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd

Llun: Reuters
Cymru Cwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd

Mae tîm rygbi'r gynghrair menywod Cymru wedi dioddef colled drom o 124-6 yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd yn Sydney.

Dyma'r sgôr uchaf erioed mewn gêm rygbi'r gynghrair ryngwladol, gyda'r Awstraliaid yn sgorio 21 cais yn ystod yr ornest.

Roedd Awstralia, sydd wedi ennill y tair cystadleuaeth ddiwethaf, ar y blaen o 60-0 erbyn hanner amser.

Roedd hynny ynddo'i hun yn record am y nifer fwyaf o bwyntiau a gafodd eu sgorio gan un tîm yn hanner cyntaf gêm yng Nghwpan y Byd, boed yng nghystadleuaeth y dynion neu'r menywod.

Parhaodd Awstralia i ddominyddu yn yr ail hanner, gyda Jaime Chapman yn sgorio ei chweched cais yn ystod y gêm yn y funud olaf.

Roedd hynny'n golygu bod Awstralia wedi torri'r record flaenorol am y sgôr uchaf mewn gêm ryngwladol, sef buddugoliaeth Denmarc o 122-8 yn erbyn Sweden yng nghystadleuaeth y dynion yn 2012.

Mae'r gwahaniaeth o 118 pwynt hefyd yn record newydd mewn gêm ryngwladol y menywod.

Eleni oedd y tro cyntaf i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd, ac er gwaethaf y golled drom, roedd rhywbeth i'w ddathlu wrth i Paige Travis sgorio dim ond ail gais Cymru erioed yn y gystadleuaeth.

Roedd Cymru ar ei hôl hi o 100-0 pan groesodd Travis y llinell gais, gan olygu mai Cymru oedd y tîm cyntaf i sgorio yn erbyn Awstralia yn ystod y bencampwriaeth eleni.

Roedd y cais yn destun dathliadau mawr ymhlith chwaraewyr Cymru, er gwaethaf y sgôr.

Dim ond yn 2021 y chwaraeodd Cymru ei gêm ryngwladol gyntaf, ac roedd yr ornest yn erbyn Awstralia yn ddim ond yr 16eg gêm yn hanes y tîm.

Dyma hefyd y tro cyntaf i Gymru wynebu Awstralia, sydd wedi ennill tair Cwpan y Byd yn olynol ac sy'n gobeithio cipio pedwerydd teitl.

Mae'r golled yn erbyn Awstralia felly'n dod ag ymgyrch gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.