Cleifion meddygfeydd yn ardal Abertawe wedi eu heffeithio ar ôl i gwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Mae cleifion yn ardal Abertawe ymysg miloedd sydd methu cael mynediad at eu meddygfeydd ar-lein ddydd Iau ar ôl i gwmni technoleg fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae cwymp Silicon Practice yn golygu nad yw rhai gwasanaethau, gan gynnwys gwefannau, ymgynghoriadau ar-lein a botiau sgwrsio, yn gweithio bellach.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gallu rhybuddio cleifion ymlaen llaw y gallai gwefannau tair meddygfa yn eu hardal gau.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: “Mae tair meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi’u heffeithio ar ôl i gwmni allanol sy’n darparu eu gwefannau fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
“O ganlyniad, bydd gwefannau’r meddygfeydd yn rhoi’r gorau i weithio.
“Ond nid yw’r meddygfeydd wedi cael gwybod pryd y bydd hyn yn digwydd, ac os byddan nhw’n cael rhybudd, mae disgwyl mai byr iawn fydd hwnnw.”
Roedd y tair meddygfa yng Nghymru, Meddygfa Mount ym Mhort Talbot (Clwstwr Afan), Meddygfa Castle (Clwstwr Castell-nedd) a Meddygfa Victoria Gardens (Clwstwr Castell-nedd), i gyd wedi gallu rhybuddio cleifion ymlaen llaw y gallai eu gwefannau gau, ond nid oedden nhw’n gallu dweud yn union pryd.
Dywedodd y tair meddygfa: “Hoffem roi gwybod i bob claf fod y cwmni allanol sy’n darparu gwefan ein meddygfa wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. O ganlyniad, gallai ein gwefan roi’r gorau i weithio ar unrhyw adeg, heb fawr o rybudd, os o gwbl.”
Yn ogystal a ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae Sir Gaerloyw a Llundain ymhlith yr ardaloedd sydd wedi wynebu problemau.
Dywedodd llefarydd ar ran GIG Lloegr: “Er bod y rhan fwyaf o wefannau meddygfeydd yn gweithio fel arfer, bydd rhai meddygfeydd sy’n defnyddio Silicon Practice yn cael eu heffeithio gan y ffaith bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
“Os nad yw gwefan eich meddygfa ar gael a bod angen help arnoch chi, dylech gysylltu â’ch meddygfa dros y ffôn neu fynd yno yn bersonol fel arfer.”
Roedd Silicon Practice yn rhedeg yr offeryn digidol FootFall, gan honni yn ei hysbysebion ei fod yn lleihau nifer y galwadau ffôn gan gleifion i feddygfeydd 30%.
Dywedodd y cwmni fod FootFall yn helpu i “ryddhau eich tîm derbynfa o waith gweinyddol arferol a rheoli’r galw yn fwy effeithlon”.
“Mae wedi profi ei werth mewn dros 1,000 o feddygfeydd ledled y DU”.