Gallai canolfan ddata ar y Fenai achosi 'niwed sylweddol' meddai Cyfoeth Naturiol Cymru
Fe fyddai datblygu canolfan ddata ar lan y Fenai yn achosi "niwed sylweddol ac arwyddocaol" i dirwedd Ynys Môn yn ôl asesiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru o gynlluniau'r datblygwyr.
Byddai adeiladau'r ganolfan yn "gawraidd" ac fe fyddai'n ddatblygiad "dominyddol, anghyson ac ymwthiol" yn weledol i’r golygfeydd cyfagos.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd yn codi cwestiynau am y diffyg manylder yn Asesiad Effaith Amgylcheddol y datblygwyr am yr hyn y maen nhw'n fwriadau ei wneud gyda deunydd gwastraff asbestos ar y safle.
"Ni wnaed unrhyw gyfeiriad at safle tirlenwi asbestos Ferodo, sydd bellach wedi cau, a’r hyn a fydd yn digwydd i hwn yn y dogfennau."
Mae adroddiad diweddar arall hefyd gan un o adrannau Cyngor Gwynedd yn dweud bod "ansicrwydd yn parhau" am sefyllfa asbestos ar y tir, er bod adroddiadau'r datblygwyr yn awgrymu y gallai'r safle gael ei wneud yn addas ar gyfer canolfan ddata.
Adfer tir
Dywed datblygwyr Canolfan Ddata Menai wrth Newyddion S4C y byddai'r ganolfan yn dod â hen safle diwydiannol Ferodo yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol, ac yn ariannu adfer tir sydd wedi ei effeithio gan asbestos dros y blynyddoedd.
Maen nhw hefyd yn dweud fod ganddynt "brofiad helaeth o adfer safleoedd cymhleth", ac nid oedd ymdrechion blaenorol i sicrhau defnydd newydd i'r tir wedi llwyddo.
Ychwanegodd datganiad Canolfan Ddata Menai eu bod yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol ar effaith gweledol y datblygiad, ymysg nifer o agweddau eraill o'r cynllun.
Y cynllun
Fe fyddai safle Canolfan Ddata Menai ar ffurf campws yn cynnwys pump o adeiladau enfawr petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.
Gwelyfenai Ltd yw'r cwmni tu ôl i'r datblygiad, ac mae wedi derbyn ymateb chwyrn yn lleol ers i ddyluniad a maint y cynllun ddod yn gyhoeddus.
Mae eraill yn y gymuned leol yn cefnogi'r cais - gan ddweud y byddai'n creu swyddi o safon.
Yn ôl y datblygwyr, byddai cyfartaledd o 915 o swyddi lleol ym mhob blwyddyn o'r cyfnod adeiladu dros chwe blynedd, ac o leiaf 200 o swyddi parhaol unwaith y bydd y ganolfan wedi ei hadeiladu.
Byddai'r holl safle yn mesur 41 hectar - sydd yr un faint â 57 o gaeau pêl-droed, ac fe fyddai'r adeilad uchaf yno dros 30 metr o uchder.
Fel rhan o'r cais cynllunio, fe wnaeth y datblygwyr gyflenwi dogfen Asesiad Effaith Amgylcheddol i Gyngor Gwynedd - ac ymateb i ddiwygiadau yn y cais cynllunio mae adroddiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru.
'Effaith andwyol sylweddol'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi yn eu hymateb diweddaraf nad yw'r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno ar hyn o bryd "yn ddigonol i ddangos na fyddai'r cynnig "yn arwain at effeithiau amgylcheddol andwyol sylweddol nac yn effeithio'n andwyol" ar safleoedd sydd wedi eu gwarchod.
Gan droi at fywyd gwyllt y safle, dywed CNC eu bod o'r farn nad oes digon o wybodaeth wedi'i rhoi chwaith i asesu effeithiau tebygol y datblygiad ar ystlumod all fod ar y safle.
Wrth edrych ar y dirwedd gyfagos, byddai'r datblygiad fel ag y mae yn y cais cynllunio yn "anaddas iawn" meddai CNC.
Er bod rhan o'r datblygiad dan sylw "ar dir llwyd a ddatblygwyd yn flaenorol" gan gwmnïau Ferodo a Friction Dynamics, mae talp o'r cynllun "yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gwmpas yr adeiladau presennol sy’n weddill... ac yn sylweddol i mewn i ardaloedd maes glas newydd."
Parhau felly mae gwrthwynebiad CNC i'r datblygiad, gyda'r corff yn esbonio fod Datganiad Amgylcheddol y cwmni tu ôl i'r cynllun yn "tanamcangyfrif effeithiau'r datblygiad".
'Diffyg eglurder a sicrwydd'
Mae'r hyn y dylid ei wneud gyda gwastraff asbestos a phryderon am sŵn ar y safle yn destun trafod mewn adroddiad arall i Gyngor Gwynedd, fel rhan o sylwadau diweddaraf Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd o fewn Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd.
Dywed y Gwasanaeth eu bod yn gwrthwynebu'r cais yn ei ffurf bresennol "oherwydd y diffyg eglurder a sicrwydd sydd ar gael ar hyn o bryd i ddangos y gellir osgoi neu liniaru effeithiau andwyol sylweddol ar fwynderau ac iechyd y cyhoedd."
"Mae'r pryderon hyn yn ymwneud â maint a natur y datblygiad, ei leoliad ger Y Fenai, y lefelau sŵn cefndir isel iawn yn ystod y nos yn yr ardal, agosrwydd derbynyddion preswyl a hamdden, a'r ansicrwydd sylweddol ynghylch y gwaith peirianyddol a'r mesurau lliniaru arfaethedig.
"Nid yw'r Datganiad Amgylcheddol yn darparu digon o wybodaeth na sicrwydd ar hyn o bryd i ddangos y gellir osgoi effeithiau andwyol sylweddol ar sŵn a thirlun sain."
Sŵn
Mae'r sŵn y gallai'r safle ei gynhyrchu hefyd yn bryder penodol yn adroddiad swyddogion yr adran: "Mae gan y Gwasanaeth bryderon ynghylch y sŵn â all ddeillio o'r Ganolfan Ddata arfaethedig, gwaith adeiladu, a'r gwaith adfer tir cysylltiedig.
"Mae'r asesiad sŵn yn tybio y bydd cyflymder y ffans oeri yn cael eu cyfyngu i 50% yn ystod y cyfnod nos, gan arwain at ostyngiad tybiedig o 8 dB yn lefel sŵn o’r ffynhonnell yma. Nid yw'r Gwasanaeth yn fodlon bod y rhagdybiaeth hon yn cynrychioli’r asesiad gwaethaf phosib.
"Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos sut y bydd cyflymderau'r ffaniau yn cael eu cyfyngu i 50% wrth weithredu yn ystod y nos, ac ni ddangoswyd na ellid diystyru cyfyngiad o'r fath mewn ymateb i anghenion gweithredol."
Asbestos
Wrth drafod yr asbestos ar y safle, dywedodd swyddogion Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd nad oeddynt "wedi'i argyhoeddi bod y risgiau halogiad wedi'u nodweddu'n llawn nac ychwaith bod y strategaeth adfer arfaethedig wedi'i datblygu i lefel sy'n galluogi asesiad priodol o'i haddasrwydd.
"Noder hefyd fod yr asesiadau halogiad wedi'u paratoi heb ymgysylltiad blaenorol â'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.
"Er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol, gallai ymgynghori cynnar fod wedi cynorthwyo i gytuno ar gwmpas y gwaith ymchwilio, nodi bylchau data, a sefydlu lefel y wybodaeth sy'n ofynnol i gefnogi strategaeth adfer dderbyniol."
Ychwanegodd swyddogion fod ansicrwydd am yr asbestos ar y safle yn parhau o achos nifer o ffactorau: "Ni fu ymchwiliad ymwthiol uniongyrchol i rannau o'r tirlenwi hanesyddol, gan gynnwys ardaloedd yn rhan ddeheuol y safle, oherwydd cyfyngiadau mynediad."
Nid oedd yn glir chwaith beth oedd natur, maint a chyfansoddiad y deunyddiau tirlenwi yn yr ardaloedd dan sylw, gan gynnwys deunyddiau sy'n cynnwys asbestos.
"Rhoddir pwyslais sylweddol ar gynlluniau rheoli, datganiadau dull a mesurau gwirio yn y dyfodol nad ydynt wedi'u darparu/manylu eto," meddai swyddogion.
Ymateb y datblygwyr
Mewn ymateb i'r ymatebion diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai:
"Byddai'r cynigion yn dod â hen safle diwydiannol Ferodo, sydd wedi bod yn adfeiliedig ers amser maith, yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol ac yn ariannu adfer tir yr effeithiwyd arno gan asbestos a halogiad hanesyddol arall.
"Mae'r safle wedi sefyll heb ei ddefnyddio i raddau helaeth ers blynyddoedd lawer ac nid yw ymdrechion blaenorol i sicrhau defnydd newydd hyfyw wedi llwyddo.
"Mae gennym brofiad helaeth o adfer safleoedd cymhleth a chadw at Reoliadau Rheoli Asbestos a'r holl ofynion rheoleiddio perthnasol eraill.
"Rydym yn cydnabod y bydd y datblygiad yn weladwy a bod ei berthynas â'r dirwedd a'r lleoliad hanesyddol cyfagos yn bwysig.
"Cyflwynwyd Cod Dylunio yn benodol i leihau ei effaith weledol trwy ffurf, deunyddiau, sgrinio a thrin yr adeiladau. Canfu'r asesiad goleuo annibynnol hefyd na fyddai'r dyluniad goleuo arfaethedig yn effeithio'n andwyol ar dderbynyddion preswyl, ecolegol neu awyr dywyll cyfagos."
Ychwnaegodd datganiad y datblygwyr: "Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda phartneriaid proffesiynol i leihau presenoldeb gweledol y datblygiad ymhellach yn ei amgylchoedd.
"Mae'r pwynt hwn yn un o lawer yr ydym yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol arno."
O ran unrhyw sŵn posib fyddai'n dod o'r ganolfan, mae'r datblygwyr wedi dweud yn flaenorol fod hyn wedi ei asesu'n fanwl.
Yn ôl y datblygwyr, cymerwyd mesuriadau sylfaenol "yn y pedwar lleoliad preswyl agosaf", ac mae’r Datganiad Amgylcheddol yn dod i’r casgliad "y byddai effaith gyffredinol y sŵn gweithredol yn ddibwys ('negligible').
"Mae mesurau arfaethedig yn cynnwys tai wedi’u trin yn acwstig ar gyfer offer sydd wedi’u gosod ar y to a chyflymderau ffan is yn y nos, gyda lliniaru pellach ar gael trwy ddylunio manwl os oes angen."