'Swm sylweddol o arian' wedi ei ddwyn o fanc yn Y Fenni fore Sul
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi adroddiadau fod lladron wedi dwyn arian o fanc yn y Fenni, Sir Fynwy yn ystod oriau mân fore Sul.
Y gred yw fod "swm sylweddol o arian" wedi ei ddwyn o beiriant twll yn y wal banc Santander ar y stryd fawr.
Mae'r heddlu'n credu i hynny ddigwydd rywbryd rhwng 01:30 a 1:50 fore Sul.
Yn ôl adroddiadau, gadawodd grŵp o ddynion yn gwisgo mygydau a dillad tywyll yr ardal bryd hynny mewn car lliw tywyll.
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu drwy gysylltu â gwefan Heddlu Gwent gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600348994.