Rygbi WXV: Cymru yn curo Japan gyda thri chais

Menywod Cymru v Japan
Mae tîm rygbi menywod Cymru wedi curo Japan 0-17 mewn gêm brawf yn Tokyo yng ngyfres fyd-eang y WXV ddydd Sadwrn.
 
Wedi perfformiad addawol ym Mharc yr Arfau, Caerdydd fis Medi, gyda buddugoliaeth yn erbyn De Affrica a cholled o drwch blewyn yn erbyn UDA, roedd hyder ymhlith carfan Sean Lynn.    
 
Dychwelodd Nel Metcalfe o Ddyffryn Conwy i garfan Cymru ar ôl gwella o anaf, gan arwain ati hi a'i chwaer Branwen yn dechrau gêm brawf gyda'i gilydd am y tro cyntaf.
 

Yn ennill ei 50fed cap, Alex Callender arweiniodd garfan Cymru i'r cae fel capten. 

Wedi wyth munud o chwarae, llwyddodd Kelsey Jones i groesi'r llinell, ond chafodd y cais ddim ei ganiatáu.

Ond daeth cais cyntaf y Cymry ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wedi 35 munud o chwarae, gyda chais Seren Lockwood. 

Gyda throsiad llwyddiannus Freya Bell, roedd hi'n 0-7 wedi'r chwiban hanner amser.     

Bu'n rhaid i Freya Bell adael y cae ar ddechrau'r ail hanner oherwydd anaf.   

Ac wedi awr o chwarae, gadawodd Nel Metcalfe y cae gyda Lleucu George yn camu i'r maes.  

Chwarter awr cyn diwedd y gêm, daeth ail gais Cymru, gyda Kelsey Jones yn ymestyn y fantais, a'i gwneud hi'n 12-0 i dîm Sean Lynn. 

Rai munudau'n ddiweddarach, roedd hi'n ymddangos fod Cymru wedi cael y trydydd cais, ond roedd Kelsey Jones yn camsefyll. 

Ond daeth y trydydd cais ym munudau ola'r gêm gyda Seren Lockwood yn sgori0 ei hail gais. 

Cafodd y Cymry eu profi, ond roedd hon yn fuddugoliaeth gyfforddus wrth i dîm Sean Lynn orffen y gêm yn gryf a hyderus. 

Sgôr terfynol: Japan 0-17 Cymru    

Llun: Undeb Rygbi Cymru  

 

       

  

 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.