Duges Sussex yn 'ofidus iawn' wedi honiadau am ei thad

Duges Sussex

Mae Duges Sussex wedi dweud ei bod yn "ofidus iawn" wedi honiadau bod ei thad ar un cyfnod wedi meddu ar ddelweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.

Mae hanner brawd Meghan, Thomas Markle Jnr, wedi honni iddo ddod o hyd i gasgliad o ddelweddau yn perthyn i’w thad, Thomas Markle Snr, yn ei gyn-gartref yn Ynysoedd y Philipinau, yn ôl papur newydd The Sun.

Mewn cyfweliad â’r Daily Mail, gwadodd Thomas Snr fod ganddo ddelweddau o'r fath, gan ddisgrifio’r honiadau fel "celwyddau ffiaidd".

Y gred yw bod yr awdurdodau yn y DU wedi dweud wrth y Dduges yn flaenorol eu bod yn ymchwilio i honiadau am ei thad.

Roedd yr honiadau wedi’u cynnwys mewn llythyr a gafodd ei anfon at Scotland Yard yn 2018.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Duges Sussex: "Rwy’n ofidus iawn am y newyddion sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y 24 awr ddiwethaf, ac mae fy meddyliau gyda phob plentyn a allai fod wedi dioddef niwed.

"Yn 2018, cafodd llythyr ei anfon at Heddlu'r Metropolitan a’r adran sy’n gyfrifol am ddiogelu’r Teulu Brenhinol ac unigolion eraill. Cafodd y llythyr hwnnw ei rannu â mi wedyn. 

"Roedd yn cynnwys honiadau pryderus ac annifyr am fy nhad, ac fe gefais sicrwydd bod yr honiadau hynny’n cael eu hymchwilio."

Dywedodd mai er mwyn "amddiffyn" ei phlant y penderfynodd gadw draw oddi wrth ei thad, er gwaethaf adroddiadau "camarweiniol" yn y cyfryngau.

Ychwanegodd fod maint yr hyn sydd bellach wedi dod i’r amlwg yn "fwy ffiaidd nag y gallai unrhyw un fod wedi’i ddychmygu". 

"Fy ngobaith diffuant yw y bydd cyfiawnder yn cael ei gyflawni’n llawn, ac y bydd diogelwch ac amddiffyniad plant diniwed yn parhau’n flaenoriaeth," meddai.

Perthynas anodd

Daeth perthynas y Dduges â’i thad, a oedd yn arfer gweithio fel cyfarwyddwr goleuo ym myd teledu, i ben yn y cyfnod cyn ei phriodas frenhinol yn 2018, ar ôl iddo gael ei ddal yn trefnu lluniau paparazzi.

Ni wnaeth Mr Markle fynychu'r briodas. Ei mam, Doria Ragland, oedd yr unig aelod arall o’i theulu a oedd yn bresennol.

Y Dduges oedd unig blentyn Mr Markle a Ms Ragland, ond mae ganddo ddau o blant, Samantha Markle a Thomas Jr, o briodas flaenorol.

Yn 2025, symudodd Mr Markle i Ynysoedd y Philipinau i ddechrau bywyd newydd, ar ôl cael strôc.

Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, cafodd un o’i goesau ei thorri i ffwrdd yn ystod llawdriniaeth frys i achub ei fywyd.

Yn ôl adroddiadau, mae bellach yn byw mewn canolfan adsefydlu yn Florida, lle mae’n dysgu cerdded eto.

Mae Heddlu'r Metropolitan wedi cael cais am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.