Beth yw’r ffrae am Starlink yn Wcráin, a pam ei fod yn bwysig?

Volodymyr Zelensky / Donald Trump
Volodymyr Zelensky / Donald Trump

Mae Donald Trump yn dweud bod Elon Musk wedi adfer gwasanaeth rhyngrwyd lloeren hollbwysig i Wcráin.

Daw ar ôl cyfyngiadau a oedd wedi amharu ar allu’r wlad i ddefnyddio dronau ac amddiffyn ei hun.

Ond mae ansicrwydd o hyd ynghylch a yw’r gwasanaeth yn gweithio’n iawn, a phwy oedd yn gyfrifol am osod y cyfyngiadau yn y lle cyntaf.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau a Musk wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol, tra bod Wcráin yn dweud bod y cyfyngiadau’n peryglu bywydau yn y wlad.

Beth yw Starlink a Starshield?

Mae Starlink yn wasanaeth rhyngrwyd sy’n defnyddio lloerennau i gysylltu pobl ar y ddaear.

Mae o gymorth mewn ardaloedd anghysbell neu lle mae rhyfel wedi effeithio ar y gallu i gysylltu gyda’r we.

SpaceX, cwmni Elon Musk, sy’n darparu’r gwasanaeth.

Mae Wcráin hefyd yn defnyddio Starshield, system sydd wedi ei datblygu ar gyfer defnydd milwrol. 

Mae’r ddwy system yn helpu lluoedd Wcráin i gyfathrebu a defnyddio dronau.

Beth sydd wedi ei gyfyngu?

Mae angen cysylltiad dibynadwy ar ddronau sy’n teithio’n gyflym i daro targedau y tu ôl i’r rheng flaen ac i ryng-gipio ymosodiadau Rwsia.

Yn ôl swyddogion Wcráin, roedd cyfyngiadau cyflymder wedi atal llawer o ddronau rhag gweithredu ac wedi amharu ar systemau sy’n amddiffyn rhag ymosodiadau Rwsia.

Mae’r dadlau yn dangos pa mor ddibynnol yw Wcráin ar dechnoleg sy’n cael ei darparu a’i rheoli y tu allan i’r wlad.

Image
Elon Musk
Elon Musk, sylfaenydd SpaceX

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae Musk yn dweud mai llywodraeth yr Unol Daleithiau sy’n berchen ar systemau Starshield ac yn eu rheoli. 

Mae’n dweud y byddai unrhyw gyfyngiadau ar gyflymder neu ddefnydd yn benderfyniad i fyddin yr Unol Daleithiau.

Ond mae’r Tŷ Gwyn yn gwadu iddyn nhw orchymyn unrhyw gyfyngiadau.

Mae Volodymyr Zelensky wedi cyhuddo llywodraeth yr Unol Daleithiau a SpaceX o fod yn gyfrifol.

Pam bod pris tanwydd yn rhan o’r ddadl?

Daeth y cyfyngiadau wrth i Trump bwyso ar Wcráin i roi’r gorau i ymosod ar burfeydd olew Rwsia.

Mae’n dadlau bod yr ymosodiadau hynny wedi cyfrannu at y cynnydd ym mhris tanwydd i Americanwyr.

Mae plaid Trump yn wynebu colledion mewn etholiadau fis nesa' a mae prisiau uchel yn fwrn gwleidyddol arno.

Ond nid yw hynny ynddo’i hun yn profi unrhyw gysylltiad rhwng y pwysau gwleidyddol a’r penderfyniad i gyfyngu’r gwasanaeth i Wcráin.

Ydi’r gwasanaeth yn gweithio eto?

Mae Trump yn dweud bod Musk wedi adfer y gwasanaeth.

Yn ôl y Wall Street Journal, fe wnaeth Trump ffonio Musk i ofyn iddo godi’r cyfyngiadau. 

Gwrthododd Trump gadarnhau a oedd yr alwad wedi digwydd.

Yn gynharach ddydd Iau, roedd Zelensky wedi dweud nad oedd y gallu i ddefnyddio’r system wedi ei adfer yn llawn.

Dywedodd uwch swyddog Ewropeaidd wrth yr Associated Press hefyd nad oedd y gwasanaeth yn gweithio’n iawn eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.