Y band Topper yn ail-ffurfio ar gyfer gŵyl yn Nyffryn Nantlle mewn teyrnged i Dyfrig Evans

Topper band

Fe fydd y band Topper yn ail-ffurfio i berfformio mewn gŵyl yn Nyffryn Nantlle y flwyddyn nesaf mewn teyrnged i'r diweddar Dyfrig Evans. 

Bydd y band o Ben-y-groes yng Ngwynedd yn perfformio yng Ngŵyl Maes D ym mis Mai 2027. 

Bu farw y cerddor a’r actor Dyfrig Evans yn 43 oed yn dilyn cyfnod o waeledd yn 2022. 

Yn ystod 90au cynnar, fe ddechreuodd ganu ym mand Paladr gyda’i frawd Iwan Evans, cyn i’r band ddatblygu dan enw ‘Topper’ yn ddiweddarach.

Roedd yn gitarydd a phrif ganwr gyda’r grŵp, ac fe ddaeth i gael ei adnabod gan lawer fel Dyfrig Topper o achos llwyddiant y band.

Caneuon cofiadwy

Roedd ‘Topper’ yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd y sîn roc am nifer o flynyddoedd, gan gyhoeddi sawl albwm ag EP oedd yn cynnwys caneuon cofiadwy fel ‘Hapus’, ‘Cwpan mewn dŵr’ a ‘Newid er mwyn newid’.

​​​​​​Aeth y band ar daith gyda Catatonia, cyn dirwyn i ben yn 2001. Cafodd casgliad o ganeuon ‘Topper’ eu rhyddhau dan enw ‘Y Goreuon o’r Gwaethaf’ ar label Rasal yn 2005.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher, dywedodd Gŵyl Maes D: "Mi fydd band Topper yn ail ffurfio yn arbennig ar gyfer Gŵyl Maes D i dalu teyrnged i’r cerddor arbennig a thalentog Dyfrig Evans.

"Mi fydd brodyr a ffrindia Dyfrig yn dod yn nôl at ei gilydd ddegawd yn ddiweddarach i'n diddanu. Mi fydd gwestai arbennig yn cael y fraint o ganu caneuon Dyfrig gyda band Topper."
 
Ychwanegodd yr ŵyl: "Roedd Dyfrig yn wreiddiol o Benygroes a roedd ganddo feddwl y byd o Ddyffryn Nantlle. 
 
"Mae dychwelyd yn ôl i wreiddiau Dyfrig gyda Topper yn gwneud ymddangosiad arbennig gyda’i gilydd yng nghae Clwb Pêl Droed Nantlle Vale am y tro cyntaf ers blynyddoedd yn hollol emosiynol ac yn gyfraniad arbennig iawn i Wŷl Maes D. "

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.