Tom Rhys Harries: Byddai gweld y Mabinogi ar y sgrîn fawr yn 'rili cŵl'

Tom Rhys Harries gyda cefndir brandio y ffilm Clayface

Mae'r actor Tom Rhys Harries wedi dweud y byddai wrth ei fodd yn gweld chwedlau'r Mabinogi'n cael eu haddasu ar gyfer y sgrîn fawr.

Wrth siarad â Newyddion S4C cyn rhyddhau ei ffilm newydd, Clayface, bu’r actor o Gaerdydd yn trafod addasiad o chwedlau hynafol Cymru, ei falchder am lwyddiant ysgubol Effi o Blaenau, a’r cyfle i weithio gyda chyd-Gymry yn Hollywood.

Yn Clayface, mae Tom yn actio'r cymeriad Matt Hagen, actor llwyddiannus o Gotham sy’n dioddef anafiadau difrifol i’w wyneb mewn ymosodiad sy’n chwalu ei yrfa.

Mae’n troi at y gwyddonydd Caitlyn Corr am driniaeth arbrofol i adfer ei wyneb. 

Ond mae’r driniaeth yn arwain at newidiadau brawychus i’w gorff ac yn effeithio ar ei afael ar realiti.

Image
Cymeriad Matt Hagen yn edrych ar ei wyneb yn toddi mewn ffenest
Llun: Warner Bros

Yn ystod ei gyfweliad, cafodd y gymhariaeth ei gwneud rhwng y berthynas gymhleth hon a stori Blodeuwedd yn y Mabinogi, sy’n cynnwys elfennau o gariad, brad a newid corff.

“Fi wastad ’di meddwl bydde ti yn gallu neud y Mabinogi gyda cyllideb digon fawr, bydde hwnna yn rili cŵl,” meddai.

Aeth ymlaen i ystyried y syniad o ddod â Blodeuwedd a chymeriad Poison Ivy o fyd DC at ei gilydd.

“Os mae Blodeuwedd mewn byd arswyd, gyda sbin modern arna fe, ie falle - Blodeuwedd a Poison Ivy."

Ychwanegodd fod cael dychwelyd i Gymru i weithio ar brosiectau y gellid eu cyflwyno “ar y llwyfan mwyaf eang a posib” yn golygu llawer iddo.

“A fydd o sicr yn meddwl lot i mam!” meddai.

Effi o Blaenau

Nid chwedlau Cymru yn unig sy’n ei gyffroi. Bu Tom hefyd yn sôn am ei falchder am lwyddiant Effi o Blaenau, lle mae’n serennu ochr yn ochr â Leisa Gwenllian.

“Un o’r pethau fi’n mwyaf browd o blwyddyn yma yw llwyddiant Effi o Blaenau, mae Leisa Gwenllian yn arwain y ffilm yn wych, mae’n rili gyffrous i weld beth mae Leisa’n neud nesaf.”

Roedd y ffilm hefyd yn gyfle iddo weithio unwaith eto gyda’r cyfarwyddwr Marc Evans, a gyfarwyddodd ei ffilm gyntaf, Hunky Dory.

“I allu mynd nôl i weithio ’da Marc a wneud y ffilm cyntaf fi ’di neud trwy gyfrwng y Cymraeg, fi jyst yn teimlo yn rili ddiolchgar am yr holl prosiectau gwahanol fi ’di gallu gwneud blwyddyn yma. Hwnna yn enwedig.”

Cyd-Gymry yn Hollywood

Nid Tom yw’r unig wyneb o Gymru yn Clayface, gyda Rob Brydon hefyd yn ymddangos ynddi.

“Roedd Rob yn y ffilm achos, wel, yn rhannol achos bod fi yn dod o Gymru,” meddai.

Daeth y syniad o gynnwys Rob Brydon yn y ffilm mewn sgwrs rhwng Tom a’r cyfarwyddwr James Watkins, ar ôl gorffen y prif gyfnod o ffilmio.

“Fi’n meddwl bod e mor wych yn y ffilm, a bod e yn byw o fewn y byd yna lle mae ’da fe gefndir o fewn comedi ond mae fe’n actor dramtig rili gryf.”

Image
Cymeriad Matt Hagen gyda'i llygad ar gau a sishwrn yn ei ddwylo
Llun: Warner Bros

Yn ystod y sgwrs, bu Tom hefyd yn trafod ei gysylltiadau â’r actor Matthew Rhys.

“Fi wedi bod ar bach o crusade i drio cael Matthew i gwrdd â fi.”

Wrth restru’r cysylltiadau rhyngddyn nhw, dywedodd fod y ddau’n dod o Gaerdydd: “Aeth o i Lantaf, ag es i i Blasmawr.”

Mae tadau’r ddau hefyd wedi gweithio fel penaethiaid ysgolion.

“Mae’r venn diagram Matthew Rhys a fi yn eithaf populated.”

Mae Tom a’i gariad yn byw yn Los Angeles, lle mae’r actores Jennifer Gre - sy’n enwog am chwarae 'r cymeriad Baby yn Dirty Dancing - yn gymydog iddyn nhw.

“Fi’n siarad gyda Jennifer Grey bron pob dydd,” meddai.

Mae cysylltiad arall â Matthew drwy Jennifer hefyd, gan mai hi oedd yn gyfrifol am ddod â Matthew a’i bartner, yr actores Keri Russell, at ei gilydd.

O Gaerdydd i Gotham

Dechreuodd gyrfa Tom yng Nghymru, gan astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a gwneud ei ymddangosiad ffilm cyntaf yn Hunky Dory yn 2011.

Wrth iddo gamu i brif rôl ym myd DC, mae rhannu’r profiad gyda phobl sy’n agos ato yn bwysig iddo.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C ym mis Awst 2025, dywedodd Tom ei fod am weld mwy yn cael ei wneud i hybu talentau creadigol pobl o Gymru.

Bu’n trafod y cydweithio rhwng Canton Studios a DC ar gyfer Clayface, a chael ei ffrind agos, y ffotograffydd Carys Huws, yn rhan o’i dîm.

Mae wedi adnabod Carys ers pan oeddynt yn blant, ac mae ei gefnder Harri yn rhedeg Canton Studios.

“Ni’n trio creu rhywfath o ‘Taffia’ ffilm a deledu,” medddai gan chwerthin.

Image
Tom a'i ffrind Carys yn edrych at y gamera

Esboniodd fod y syniad ar gyfer y cydweithio wedi dechrau mewn sgwrs gyda Harri bedwar neu bum mis ynghynt.

I Tom, mae cael rhannu’r profiadau hyn gyda phobl sy’n agos ato yn rhan bwysig o’r llwyddiant y mae'n ei fwynhau ar hyn o bryd.

“Os wyt ti’n gallu mynd a’r siwrne efo pobl ti’n caru ag yn credu mewn, dyna’r pwynt rili yn dyw e?”

Bydd Clayface mewn sinemâu ym Mhrydain o ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.