Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones wedi ymddiswyddo
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones wedi ymddiswyddo, a hynny ar sail rhesymau personol.
Mae Newyddion S4C yn deall bod Osian Llywelyn hefyd wedi penderfynu ildio’n wirfoddol ei rôl fel Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.
Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg fydd yn ymgymryd â rôl y Dirprwy Gomisiynydd dros dro.
Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog: "Heddiw rwyf wedi derbyn ymddiswyddiad Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ar sail rhesymau personol. Rwy’n diolch iddi am ei holl waith ers ei phenodiad yn 2023.
"Bydd proses benodi gyhoeddus lawn yn awr yn cael ei chynnal ar gyfer penodi Comisiynydd newydd. Yn y cyfamser, mae Ms Gruffudd Jones wedi penodi Lowri Williams yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, a fydd felly yn arfer swyddogaethau'r Comisiynydd hyd nes bydd y broses benodi wedi dod i ben."
Cychwynnodd Efa Gruffudd Jones yn ei swydd ym mis Ionawr 2023.
Pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud am ei phenodi, disgrifiodd y swydd fel "braint" iddi ar y pryd:
"Dw i’n edrych ymlaen at wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y Gymraeg, ein trysor cenedlaethol, yn perthyn i bob un ohonon ni," meddai.
Gweithiodd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yn 2004.
Cafodd ei phenodi yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016.
Roedd yn Gadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru tan yn ddiweddar.
Bu hefyd yn Is-Gadeirydd CWVYS, yn ymddiriedolwr o’r WCVA, ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.