Sam Fender i berfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd yr haf nesaf
Fe fydd cerddor byd-enwog arall yn perfformio yng Nghaerdydd yr haf nesaf, wrth i'r brifddinas dyfu yn ei phoblogrwydd fel lleoliad i gyngherddau mawr.
Y canwr poblogaidd Sam Fender yw'r diweddaraf ar restr yr artistiaid fydd yn canu yn y ddinas.
Mae Fender, sydd o North Shields yng ngogledd Lloegr, yn enwog am ei ganeuon sydd yn cynnwys 'Rein Me In' a 'Seventeen Going Under'.
Cyhoeddodd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun oedd yn awgrymu lleoliadau ei gyngherddau yn ystod haf 2027.
Roedd y stadiymau hyn yn cynnwys St James' Park - cartref ei hoff dîm pêl-droed Newcastle United, a hefyd stadiwm Etihad ym Manceinion, y Principality yng Nghaerdydd, Murrayfield yng Nghaeredin, Castell Malahide yn Iwerddon a Wembley yn Llundain.
"Mae am fod yn anferth", meddai yn y neges.
Llun: Ben Birchall/PA