Disgwyl cyhoeddiad am gynllun i ailwampio treth y cyngor
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi os bydd cynllun i ailwampio treth y cyngor yn mynd yn ei flaen neu beidio yn ddiweddarach dydd Mawrth.
Mae'r drefn o osod tai mewn bandiau treth y cyngor yn seiliedig ar brisiau tai yn ôl yn 2003, pan gafodd cartrefi eu hailbrisio am y tro diwethaf.
Ers hynny mae llawer o dai wedi cynyddu'n sylweddol mewn gwerth.
Cafodd adolygiad ei gynnal gan Lywodraeth Llafur Cymru yn 2023 i ystyried newidiadau i'r system bresennol o godi'r dreth.
O dan yr adolygiad hwnnw fe fyddai dros 450,000 o dai wedi gweld cynnydd yn eu biliau treth y cyngor, a 800,000 o aelwydydd yn gweld gostyngiad.
Ni welodd y cynllun hwnnw olau dydd yn 2024 fel oedd wedi ei ddisgwyl, gan arwain at hollt yn y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru ym mis Mai o'r flwyddyn honno.
Ond gyda Phlaid Cymru bellach mewn grym ym Mae Caerdydd, mae disgwyl i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones AS, ddiweddaru aelodau o'r Senedd am fwriad y llywodraeth heddiw.
Cynyddu refeniw
Dywedodd y llywodraeth Lafur blaenorol mai'r bwriad wrth newid y drefn fyddai i gynyddu refeniw, ac nad oedd disgwyl i 50% o aelwydydd weld gwahaniaeth i’w trethi cyngor.
Fe wnaeth y llywodraeth honno hefyd gydnabod y gallai’r cynlluniau i ail-gydbwyso greu canlyniadau “anfwriadol”, fel cynyddu’r baich ariannol ar aelwydydd incwm isel oedd bellach yn byw mewn eiddo â gwerth uwch.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y llywodraeth i beidio gweithredu unrhyw newidiadau i dreth y cyngor.
Dywedodd Sam Rowlands AS, llefarydd y blaid ar gyllid: “Rhaid i Blaid Cymru ganslo’r ail-werthusiad arfaethedig o dreth y cyngor, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2028.
"Bydd hyn yn gwthio aelwydydd i mewn i fandiau uwch ac yn cynyddu biliau treth y cyngor ar adeg pan mae teuluoedd eisoes yn cael trafferth ymdopi â chostau byw.
“Cyflwynodd Plaid Cymru a Llafur yr ail-werthusiad ar gyfer 2028, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan Geidwadwyr Cymru. Byddwn ni bob amser yn sefyll dros drethdalwyr.”