Arestio dyn yn dilyn marwolaeth mewn fflat yng Nghaergybi
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaergybi yn oriau mân fore Sadwrn.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru alwad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am 02:42 yn dilyn digwyddiad mewn fflat yn Llys Watling, Ffordd Llundain.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn lleol wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn nalfa'r heddlu.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Richard Sidney: "Rydyn ni'n deall y gallai'r digwyddiad hwn achosi pryder yn y gymuned leol, ac rydw i am dawelu meddyliau trigolion y bydd mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal heddiw wrth iddyn nhw fynd o ddrws i ddrws a chynnal ymchwiliadau pellach."
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu â nhw drwy'r gwasanaeth sgwrsio ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000852942.