Bachgen 16 oed a dyn 80 oed wedi marw mewn damwain awyren yn yr Alban
Mae bachgen 16 oed a dyn 80 oed wedi marw mewn damwain awyren fechan ger Loch Lomond yn yr Alban.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau am ddamwain i'r gogledd-ddwyrain o bentref Drymen, ger Stirling, tua 16:45 brynhawn Gwener.
Cadarnhaodd Heddlu'r Alban fod y ddau wedi marw yn y fan a'r lle, a bod eu teuluoedd wedi cael gwybod.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i'r ddamwain, ac mae tîm o'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) wedi teithio i'r safle i gasglu tystiolaeth.
Yn ôl adroddiadau, awyren o'r math Piper Tomahawk II oedd hi, ac roedd wedi gadael Maes Awyr Glasgow ychydig ar ôl 16:15 brynhawn Gwener.
Daeth y signal o'r awyren i ben tua 20 munud yn ddiweddarach.
Mae swyddogion yr heddlu yn dal ar safle'r ddamwain ger Old Drymen Road, ac mae mynediad drwy giât sy'n arwain at fryn lle mae'n ymddangos bod y ddamwain wedi digwydd wedi'i gau.
Fore Sadwrn, cafodd fan heddlu a nifer o swyddogion eu gweld yn teithio i gyfeiriad y safle.
Dywedodd Gavin Birch-Williams, rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Glasgow, fod pawb yn y maes awyr yn cydymdeimlo â ffrindiau a theuluoedd y rhai a fu farw.
"Mae hwn yn ddigwyddiad hynod drasig, ac mae meddyliau a chydymdeimlad dwys pawb ym Maes Awyr Glasgow gyda'r ffrindiau a'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio," meddai.
Mewn datganiad, cadarnhaodd yr AAIB fod ymchwiliad wedi dechrau i'r ddamwain ar 16 Hydref.
Dywedodd fod tîm wedi teithio i safle'r ddamwain ger Drymen er mwyn cynnal ymholiadau a chasglu tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad i ddiogelwch.
Mae cyfyngiadau dros dro ar hedfan wedi'u cyflwyno yn yr ardal, gan gynnwys defnyddio dronau.
Yn ôl yr heddlu, mae'r cyfyngiadau'n debygol o barhau am beth amser er mwyn caniatáu i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio ei bod hi'n drosedd hedfan yn y gofod awyr sydd dan gyfyngiadau.
