Apêl am enwau chwareli llechi Cymru ar gyfer llwybr newydd yn Llanberis
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn apelio ar y cyhoedd i rannu enwau chwareli llai adnabyddus er mwyn eu cynnwys ar lwybr llechi newydd.
Ar ôl cau ei drysau ym mis Tachwedd 2024, mae'r amgueddfa bellach yn anelu at ailagor yng ngwanwyn 2028, er mai'r disgwyl yn wreiddiol oedd iddi ailagor ar ddiwedd 2026 neu ddechrau 2027.
Dywedodd Amgueddfa Cymru ei bod yn “anodd rhoi dyddiad pendant ar gyfer ail agor oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, megis y tywydd.”
Fel rhan o'r gwaith o ailddatblygu'r safle yn Llanberis, mae cynllun i greu llwybr llechi newydd a fydd yn arwain at borth yr amgueddfa ar ei newydd wedd.
Y nod yw cynnwys cymaint o enwau chwareli â phosibl ar hyd y llwybr, ac mae'r amgueddfa yn galw ar aelodau'r cyhoedd a haneswyr lleol i gysylltu er mwyn cyfrannu enwau a allai fod wedi mynd yn angof.
Mae staff eisoes wedi casglu 196 o enwau chwareli o ogledd-orllewin Cymru, yn ogystal â siroedd Dinbych, Penfro, Maesyfed a Chaerfyrddin.
Dywedodd llefarydd: “Mae arbenigwyr a haneswyr ar hyd y blynyddoedd wedi cofnodi nifer fawr o’r chwareli yn ogystal â’u nodweddion mewn llyfrau a phapurau gwahanol.
“Mae project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru’n awyddus i ddathlu cyfoeth y dreftadaeth yma drwy ysgythru gymaint o enwau chwareli Cymru â phosibl i mewn i lwybr llechi a fydd yn arwain at borth yr Amgueddfa ar ei newydd wedd.
“Rydym eisiau sicrhau bod y llwybr yn gynrychioladol ac yn gyflawn ac felly rydym yn galw ar wybodusion lleol ar hyd a lled Cymru i gyfrannu drwy fewnbynnu enwau chwareli llai adnabyddus.”
'Ailddatblygiad yn parhau'
Ychwanegodd Amgueddfa Cymru fod “dealltwriaeth lawn o raddfa rhai o’r atgyweiriadau” wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r gwaith ddechrau, gan arwain at oedi cyn ailagor y safle.
“Mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn dda iawn yn Llanberis wrth i ni barhau i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, sy'n flaenoriaeth allweddol i ni.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol hwn ac yn cymryd yr amser a'r gofal angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith cymhleth hwn yn cael ei gyflawni i'r safon uchaf bosibl.
“Rydym yn gwybod fod pawb yn edrych ymlaen at yr ail agor, ac rydym yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am gynnydd y gwaith wrth i'r ailddatblygiad barhau, yn ogystal â pharhau i fynd â'r casgliadau allan i'r gymuned drwy ein rhaglen Amgueddfa ar y Lôn.”
Mae modd cyfrannu enwau chwareli drwy ffurflen ar-lein Amgueddfa Cymru.