Galw ar bobl i osgoi ardal wedi i olew lygru Afon Taf
Mae pobl sy'n byw ger Afon Taf wedi cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau ac i osgoi'r ardal wedi i gerosin ollwng i'r afon.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y llygredd yn effeithio ar o leiaf milltir o'r afon a'i hisafonydd i lawr yr afon o ardal Trefforest.
Fe gafodd CNC nifer fawr o adroddiadau am arogl cryf o danwydd a llygredd yn yr afon yng Nglan-y-llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais ddydd Gwener.
Mae Newyddion S4C wedi clywed adroddiadau bod y llygredd yn achosi problemau i lygaid a gyddfau rai trigolion yr ardal, yn ogystal â chur pen.
Mae hefyd adroddiadau o bysgod wedi marw yn yr afon.
Mewn datganiad dywedodd CNC: "Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am arogl tanwydd cryf a llygredd yn yr Afon Taf yn Glan Y Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Tongwynlais. Rydym yn ymwybodol o’r digwyddiad ac yn anfon cydweithwyr i ymchwilio."
Yn ddiweddarach, daeth gadarnhad gan CNC fod swyddogion wedi dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac wedi nodi mai cerosin oedd y sylwedd.
Mae cerosin yn fath o danwydd sy'n cael ei ddefnyddio, ymhlith pethau eraill, i wresogi cartrefi.
Yn ôl CNC, mae'r cerosin wedi mynd i mewn i'r system draenio dŵr wyneb, cyn llifo drwy geuffos i un o lednentydd Afon Taf.
Mae swyddogion CNC yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i geisio atal rhagor o'r tanwydd rhag cyrraedd yr afon.
Mae'r gwasanaeth tân wedi gosod offer i gasglu'r tanwydd, mewn ymgais i leihau'r llygredd.
Dywedodd CNC bod eu swyddogion yn gweithio ar frys i atal y llygredd yn ei ffynhonnell a lleihau unrhyw niwed pellach i'r amgylchedd.
Mae trigolion lleol wedi cael eu cynghori i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau fel rhagofal, ac i osgoi'r ardal.
Nid yw achos y gollyngiad wedi'i gadarnhau hyd yma.
Lluniau: Olew yn ymddangos ar wyneb Afon Taf. (Sara Llywelyn)
