Cyn-AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn cymharu ymateb y blaid i feirniadaeth i 'gam-driniaeth ddomestig'

Newyddion S4C
Sarah Cooper-Lesadd
Sarah Cooper-Lesadd

Mae cyn-aelod Senedd Reform UK wedi cymharu ymateb y blaid i feirniadaeth "fel cam-driniaeth ddomestig".

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Sarah Cooper-Lesadd nad oedd hi'n synnu bod honiadau o hiliaeth a misogynistiaeth o fewn i'r blaid. Honnodd hefyd ei bod hi wedi profi ymddygiad o’r fath yn bersonol.

Mae Reform UK yn dweud y dylai Ms Cooper-Lesadd ymddiswyddo. Maen nhw'n disgrifio ei honiadau fel “celwydd noeth”.

Mae ymchwiliad camera cudd gan ITV, a fydd yn cael ei ddarlledu nos Sul, wedi ffilmio nifer o gefnogwyr ac ymgeiswyr y blaid dros gyfnod o 12 mis, gyda sawl un yn gwneud sylwadau hiliol a rhai sydd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.

Dywed Reform UK fod pawb sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen yn destun ymchwiliad, gyda rhai wedi ymddiswyddo ac eraill wedi’u hatal dros dro.

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd ym mis Mai fel aelod o Reform UK. Fe ymunodd â Phlaid Cymru ym mis Medi.

Mae’n honni bod diwylliant misogynistaidd yn bodoli o fewn y blaid pan oedd hi’n aelod, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C mai hi oedd yn destun sylwadau o’r fath.

Gan gyfeirio at ddau ddigwyddiad ar wahân, mae’n honni bod aelod amlwg o’r blaid wedi dweud wrthi ei bod yn “edrych fel rhywun a fyddai’n sgrechian” yn ystod rali wleidyddol. 

Mae hi hefyd yn honni bod yr un aelod wedi dweud wrthi nad oedd “angen iddi gael ei hethol gan y gellid ei disodli gan ddyn 60 oed”.

Dywedodd fod diwylliant ehangach o rywiaeth a misogyniaeth o fewn y blaid wedi golygu nad oedd hi’n “teimlo wedi’i grymuso i adrodd” yr achosion hyn, gan honni na fyddent “wedi cael eu cymryd o ddifrif” gan y blaid.

Pan ofynnwyd iddi a oedd gan gefnogwyr Reform rywfaint o gyfiawnhad dros ddisgrifio’r feirniadaeth a gyfeiriwyd atynt fel rhan o agenda "woke”, atebodd Ms Cooper-Lesadd fod sylwadau o’r fath yn “dod o lawlyfr Reform”, gan gymharu’r arfer o feio’r "sefydliad" â "chamdriniwr mewn perthynas o gam-drin domestig".

“Mewn geiriau eraill, os na all Reform amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn, maen nhw’n troi ar y person sydd wedi datgelu’r honiadau a gwneud yr honiadau,” meddai.

“Yn y pen draw, rwy’n credu bod angen i Reform chwarae yn ôl yr un rheolau â phleidiau eraill.”

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK fod sylwadau Ms Cooper-Lesadd yn “ffugiadau llwyr gan unigolyn a lwyddodd i gael ei hethol i Senedd Cymru drwy dwyll”.

“Pe bai gan Ms Cooper-Lesadd owns o onestrwydd neu barch at ei swydd, byddai’n ymddiswyddo ar unwaith ac yn dychwelyd y sedd i gynrychiolydd Reform. Yn hytrach, mae’n dyfeisio straeon gwyllt i ddifrïo ei chyn-gydweithwyr,” meddai'r blaid.

“Mae’r ffaith bod y cyfryngau yn cymryd y ffantasïau hyn o ddifrif heb yr un tamaid o dystiolaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.