Datgelu bod eglwys hanesyddol ym Môn 'ganrifoedd yn hŷn' na'r disgwyl

Gwalchmai Eglwys Santed Morhaiarn

Mae ymchwiliad archaeolegol o gwmpas eglwys ar Ynys Môn wedi datgelu tystiolaeth bosib sy’n awgrymu y gallai gwreiddiau’r addoldy fod ganrifoedd yn hŷn na’r hyn roedd pobl yn ei gredu.

Cafodd y gwaith ei gynnal fel rhan o gais cynllunio i ymestyn mynwent Eglwys Santes Morhairan ym mhentref Gwalchmai.

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth archaeolegwyr o hyd i feddau o’r canoloesoedd cynnar a thystiolaeth bosib o weithgarwch cynhanesyddol.

Yn sgil y canfyddiadau, cafodd cynnig amgen ei gyflwyno yn awgrymu y dylai’r safle gael ei gadw fel y mae a bod ardal arall yn cael ei ddewis ar gyfer yr estyniad i’r fynwent.

Mae manylion yr achos mewn adroddiad gan CR Archaeology gafodd ei greu ar ran Cyngor Cymuned Trewalchmai fel rhan o’r cais cynllunio i Gyngor Ynys Môn.

Naw o feddi canoloesol

Mae’r adroddiad yn dweud bod o leiaf naw bedd cerrig hir a allai ddeillio o’r cyfnod canoloesol cynnar wedi cael eu canfod.

“Roedd yr amrywiad ym maint y beddi yn dangos bod babanod, yn ogystal ag o leiaf un plentyn ac un oedolyn, wedi’u claddu ar y safle,” meddai’r adroddiad.

“Datgelwyd y beddi a’u cofnodi, ond chawson nhw mo'u cloddio. Nodwyd hefyd ddwy ffos fas o fewn ardal y cloddio.

Image
Beddi

“Gallai’r rhain fod yn ffosydd amgáu sy’n gysylltiedig â’r claddedigaethau, ond doedd dim modd profi hyn gan mai dim ond 1.8m o bob un gafodd ei ddatgelu o fewn ardal y cloddio.”

Nodweddion cynhanesyddol?

Ychwanegodd yr adroddiad: “Roedd dau o’r beddi wedi’u torri i mewn i nodwedd gynharach. Mae’n bosibl bod y ffosydd a/neu’r nodwedd gynharach yn cynrychioli gweithgaredd cynhanesyddol ar y safle, a oedd yn ganolbwynt ar gyfer y claddedigaethau o’r cyfnod canoloesol cynnar.

“Dangosodd y gwaith ar y safle fod gwreiddiau Eglwys Santes Morhaiarn ganrifoedd yn hŷn nag y mae’r elfennau strwythurol sydd wedi goroesi a’r ffynonellau dogfennol yn ei awgrymu.”

Mae’r eglwys yng nghanol Môn yn adeilad cofrestredig Gradd II* ac yn cael ei disgrifio fel “enghraifft dda” o eglwys wledig fach.

Image
Eglwys St Morhaiarn

“Mae’r eglwys yn perthyn yn bennaf i ddiwedd y cyfnod canoloesol, er bod cofnodion yn nodi bod ganddi sylfeini hŷn,” meddai’r adroddiad.

“Er gwaethaf gwaith ailfodelu diweddarach, mae’r eglwys wedi cadw llawer o nodweddion cynharach a chymeriad ei harddull berpendicwlar syml.

“Dangosodd y gwaith ar y safle fod gwreiddiau Eglwys Santes Morhaiarn yn debygol o fod canrifoedd yn hŷn nag y mae’r elfennau strwythurol sydd wedi goroesi a’r ffynonellau dogfennol yn ei awgrymu.

“Mae’r beddau cerrig hir o’r cyfnod canoloesol cynnar yn rhan o safle claddu mwy, a’r gred yw bod presenoldeb y claddedigaethau Cristnogol hyn yn dynodi lle oedd eisoes o arwyddocâd crefyddol, ac mai hwnnw oedd y canolbwynt ar gyfer yr eglwys a godwyd yn ddiweddarach.

“Ni chafodd ardal ddigon mawr o’r fynwent yn Eglwys Santes Morhaiarn ei datgelu i allu dweud gyda hyder sut roedd y beddau wedi’u trefnu; fodd bynnag, nodwyd bod y beddau wedi’u cyfeirio mewn dwy ffordd ychydig yn wahanol. 

"O ystyried nifer y beddau babanod a phlant a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith asesu, mae’n bosibl bod hyn wedi’i wneud yn fwriadol.

“Fodd bynnag, mae’n bosibl hefyd bod plant wedi dioddef yn anghymesur oherwydd ffactorau fel newyn neu glefydau yn ystod y cyfnod pan oedd y fynwent hon yn cael ei defnyddio.”

Mwy o enghreifftiau

Nododd yr adroddiad hefyd fod y claddedigaethau yn Eglwys Santes Morhaiarn yn “enghraifft arall o’r nifer cynyddol o fynwentydd o’r cyfnod canoloesol cynnar sydd wedi’u darganfod yn gysylltiedig ag eglwysi canoloesol yng nghefn gwlad Môn”.

Mae’r safleoedd claddu yn Llanbedrgoch a Llaniestyn hefyd wedi “darparu tystiolaeth o fynwentydd o’r cyfnod canoloesol cynnar ger eglwysi gwledig bach a sefydlwyd yn y cyfnod canoloesol,” meddai.

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae’r mynwentydd cynharach yn ymestyn cryn bellter y tu hwnt i ffiniau crwm y mynwentydd canoloesol, ac mae’n amlwg bod safle Santes Morhaiarn yn dilyn y patrwm hwn.”

Cafodd mynwent arall o’r cyfnod canoloesol cynnar ei chanfod ar yr ynys ger eglwys ganoloesol Llechcynfarwy, lle daethwyd o hyd i 28 bedd.

Llun uchaf o'r eglwys: RobinLeicester, CC BY-SA 3.0 via Wikimedia Commons. Ail lun o'r eglwys: Yr Eglwys yng Nghymru. Gweddill y lluniau: Dogfennau cynllunio Cyngor Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.