Farage yn gwadu bod problem â threfn gwirio ymgeiswyr Reform wedi ymchwiliad cudd
Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi gwadu bod problem gwirio ymgeiswyr gan ei blaid yn dilyn ymchwiliad cudd i rai o'i hymgyrchwyr ar lawr gwlad.
Yn gynharach fe wnaeth sianel ITV ryddhau talpau o ymchwiliad camera cudd sy'n dangos cefnogwyr ac ymgeiswyr y blaid mewn etholiadau diweddar yn gwneud sylwadau hiliol a rhai sydd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Ymhlith yr ymgeiswyr sydd wedi eu cynnwys yn rhaglen "Undercover: A Year in Reform" mae Martin Roberts, fu'n ymgeisydd ar ran y blaid yn yr etholiad i Senedd Cymru yn gynharach eleni.
Mae Reform UK yn dweud bod pawb sydd wedi eu cyhuddo o wneud sylwadau anaddas yn y rhaglen dan ymchwiliad. Mae rhai wedi ymddiswyddo ac eraill wedi eu gwahardd tra bod yr ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo.
Achos Martin Roberts
Mae talp o'r rhaglen sydd wedi ei ryddhau gan ITV yn cynnwys sylwadau gan Martin Roberts, oedd yn bedwerydd ar restr Reform UK yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr ar gyfer etholiadau mis Mai.
Tra'n teithio mewn car gyda newyddiadurwr sydd yn ffilmio yn gudd ym mis Hydref y llynedd, mae Roberts yn gwneud sylwadau hiliol.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu â Mr Roberts ddydd Iau ond heb dderbyn ymateb.
Yn ôl ITV, dywedodd y cyn-ymgeisydd wrthyn nhw ei fod yn "ceisio bod yn ddoniol neu yn anffurfiol" ond ei fod yn "difaru defnyddio iaith anaddas".
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Reform UK nad yw Martin Roberts yn gweithio i unrhyw un o Aelodau Senedd y blaid.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen y BBC, Look East, dywedodd Nigel Farage bod "dim croeso" i unrhyw un sydd yn defnyddio iaith o'r fath sydd wedi ei datgelu gan y rhaglen.
Dywedodd arweinydd Reform UK serch hynny y byddai ymchwiliad tebyg i bleidiau eraill hefyd yn datgelu pethau "annymunol" ond bod y "sefydliad yn gwneud pethau yn wahanol" gyda Reform UK.
Llun: Will Colebourne/the Press Association
