Plaid Cymru’n galw am wythnos waith pedwar diwrnod o hyd

Mae angen cyflwyno wythnos waith sy’n para pedwar diwrnod gan gynyddu amser rhydd gweithwyr, yn ôl Plaid Cymru.
Dywedodd Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi bod arno ofn y bydd diswyddiadau torfol yn digwydd wrth i weithleoedd ddibynnu fwyfwy ar dechnoleg.
Yn ôl Golwg360, ychwanegodd Luke Fletcher y byddai cyflwyno wythnos pedwar diwrnod yn gallu “diogelu economi Cymru yn y dyfodol” yn ogystal â gwella lles gweithwyr a lleihau’r ôl troed carbon gyda llai o gymudwyr.
Bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd ddydd Mercher i alw ar Lywodraeth Cymru i dreialu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
Darllenwch y stori’n llawn yma.