Russell Brand yn ddyn 'ysglyfaethus a didostur' meddai'r erlyniad yn ei achos llys
Mae Russell Brand wedi cael ei ddisgrifio fel dyn "ysglyfaethus a didostur" oedd wedi chwerthin am ben menywod pan wnaethant wrthod cytuno i’w ofynion rhywiol, yn ôl tystiolaeth mewn llys ddydd Mercher.
Mae Brand, 51 oed, wedi cael ei gyhuddo o orfodi menywod i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol, ac o’u cusanu a’u cyffwrdd yn anweddus fel rhan o ymgyrch “obsesiynol” ganddo i gael rhyw gyda 5,000 o fenywod.
Clywodd Llys y Goron Southwark fod un o’r dioddefwyr honedig yn honni i Brand ymddiheuro am ei thrin “fel anifail.”
Dywedodd menyw arall iddo ddweud wrthi “paid â difetha’r hwyl” pan wrthododd hi gydsynio.
'Chwerthin'
Mae rhai o’r menywod sy’n ei gyhuddo yn dweud fod Brand wedi chwerthin am eu pennau ar ôl iddynt geisio gwrthod ei ymgais i ddechrau perthynas rywiol, tra bod criw o unigolion oedd gydag o ar y pryd wedi cael eu cyhuddo o fethu ag ymyrryd i’w atal.
Fe ddisgrifiodd Riel Karmy-Jones KC, ar ran yr erlyniad, Russell Brand fel "ysglyfaethwr rhywiol", yn "ddidostur" ac yn "gyfrwys".
Dywedodd fod menywod wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn ymddwyn "fel plentyn yn ei ddisgwyliadau y dylid bodloni pob un o'i ddymuniadau".
Mae Brand wedi pledio'n ddieuog i dri chyhuddiad o dreisio, tri chyhuddiad o ymosodiad rhywiol ac un honiad o ymosodiad anweddus, yn dilyn cyhuddiadau gan chwe menyw am ddigwyddiadau honedig rhwng 1999 a 2009.
Mae Brand yn honni bod yr holl gyswllt rhywiol wedi digwydd trwy gydsyniad.
Mae disgwyl iddo awgrymu bod y rhai sy'n ei gyhuddo wedi "ail-ddychmygu" y cyfarfodydd a gafwyd gydag ef ar ôl gweld adroddiadau yn y cyfryngau am ei ymddygiad rhywiol honedig.
'Afreolus'
Wrth agor yr achos, dywedodd Ms Karmy-Jones fod chwant Brand am ryw yn "afreolus", a'i fod yn defnyddio cymysgedd o hiwmor, swyn a chanmoliaeth wrth "geisio bodloni ei awydd rhywiol".
“Y peth mwyaf blaenllaw yn ei feddwl oedd ei awydd i gael yr hyn yr oedd ei eisiau gan bwy bynnag yr oedd ei eisiau ganddynt,” meddai.
Mae menyw a wnaeth gyfarfod Brand yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym 1999 yn honni iddi gael ei threisio gan y digrifwr yn ystafell ei gwesty.
Mae hi’n honni iddo ei gorfodi i orwedd ar y gwely a’i threisio.
Wedi hynny, fe wnaeth ymddwyn “fel petai dim byd wedi digwydd”, meddai Ms Karmy-Jones.
Mae menyw a fu’n gweithio yn MTV gyda Brand yn honni iddo geisio ei llusgo i mewn i giwbicl toiled ar ddechrau’r 2000au, ar ôl iddi ganmol ei grys-t “I Am Spartacus”.
Gorsaf radio
Mae gweithiwr gorsaf radio hefyd yn dweud bod Brand wedi “chwerthin yn watwarus” ar ôl ei chusanu a’i chyffwrdd yn anweddus tra'r oedd aelodau o’i griw yn gwylio.
Digwyddodd y digwyddiad honedig yn yr orsaf radio yng nghanol y 2000au.
Dywedodd y fenyw iddi gael ei gwthio yn erbyn wal gan ddioddef ymosodiad rhywiol honedig oedd yn “gyflym ac yn wyllt”.
Dywedodd Ms Karmy-Jones fod y fenyw wedi edrych ar aelodau o griw Brand “gan obeithio y byddent yn ymyrryd”, ond na chafodd unrhyw gymorth.
“Baglodd Mr Brand yn ôl oddi wrth y gwthiad olaf hwnnw a dim ond chwerthin yn watwarus - fel petai’n jôc,” meddai.
Mae menyw sy'n honni bod Brand wedi gafael yn ei bronnau mewn bar yn Soho yn 2004 yn dweud iddi weld "gwên fawr, ryfedd" ar wyneb Brand wedyn.
Mae hi'n honni iddo wedyn ei llusgo i dŷ bach a'i threisio, gan anwybyddu ei gwrthwynebiad a dweud "dewch ymlaen, peidiwch â difetha'r hwyl, rydych chi eisiau gwneud hyn".
Dywedodd menyw sy'n honni iddi gael ei threisio gan Brand yn ei gartref yn Hampstead wrth yr heddlu ei bod wedi dod ar ei draws eto y flwyddyn ganlynol, ac yna wedi derbyn ymddiheuriad trwy neges destun.
Roedd hi wedi cael rhyw gydsyniol gyda Brand ar ôl cwrdd ag ef mewn sioe gomedi yn yr Hammersmith Apollo yn 2009, ond mae hi'n honni i'r digrifwr fynd ymlaen i'w threisio.
Mae'r ddioddefwraig honedig olaf, oedd yn gweithio i Channel 4, wedi cyhuddo Brand o ymosodiad rhywiol tra oedd yn ffilmio ar gyfer prosiect yn 2009.
Mae Mr Brand yn gwadu'r holl gyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.
Llun: Elizabeth Cook